- Disgrifiad
Mae rhaglen y radd Gwyddor Gofal Iechyd ran-amser mewn Peirianneg Adsefydlu wedi cael ei datblygu i ddiwallu angen cenedlaethol am gyfleoedd datblygu gyrfa ar gyfer staff adrannau Peirianneg Feddygol Byrddau Iechyd yng Nghymru sydd wedi cwblhau hyfforddiant lefel 4 (h.y. Prentisiaeth mewn Gwyddor Gofal Iechyd) ond sydd ag opsiynau cyfyngedig i ddatblygu sgiliau. Bydd cydnabyddiaeth o ddysgu blaenorol hefyd ar gael ar gyfer gweithwyr y Bwrdd Iechyd nad oes ganddynt y cymwysterau lefel 4 ond gallant ddangos gwybodaeth gyfatebol a sgiliau clinigol drwy bortffolio o dystiolaeth.
Caiff myfyrwyr eu rhyddhau o'u cyflogaeth gyda'r GIG am ddiwrnod a hanner yr wythnos i astudio'r cwrs, gan dreulio un diwrnod yr wythnos gyda'r Brifysgol a hanner diwrnod ychwanegol fel amser astudio Caiff y rhaglen ei chyflwyno o bell yn bennaf, gyda phwyslais ar hyfforddiant ymarferol pan fydd y myfyrwyr ar y campws. Ariennir y rhaglen yn llawn gan y GIG a bydd yn cymryd tair blynedd i'w chwblhau.
- Pynciau sy'n Debygol o Gael eu Trafod
Dylunio, adeiladu a phrofi technolegau cynorthwyol, gan gynnwys cadeiriau olwyn, breichiau a choesau artiffisial, cynorthwyon robotig a seddau arbenigol. Defnyddio systemau mapio gwasgedd, goniomedrau, mesuryddion goleddf, rheolyddion a rhaglenwyr ffon reoli, dyfeisiau wedi'u gwneud at y diben, yn ogystal â dysgu am eu pwysigrwydd o ran chwyldroi gofal ac annibyniaeth cleifion.
- Dyddiad Cychwyn Bwriededig
- Medi 2024
Cwblhewch y ffurflen isod fel y gallwn yrru mwy o wybodaeth atoch am y rhaglen radd hon pan ddaw ar gael e.e. modiwlau, ffioedd, dyddiad dechrau ayyb.