Mae Casgliad Maes Glo De Cymru yn adnodd ymchwil o bwys rhyngwladol. Mae'r casgliad yn darparu darlun unigryw o fywyd yng nghymoedd y maes glo ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac yn yr ugeinfed ganrif, gan ganolbwyntio ar y gweithwyr a'r sefydliadau a grëwyd ganddynt. Mae'n cynnwys cofnodion undebau llafur, sefydliadau glowyr, cymdeithasau cydweithredol ac unigolion a oedd yn ymwneud â'r gymuned lofaol. Mae deunydd yn yr archifau yn ymwneud ag:
Mae'r casgliad hwn yn cynnwys casgliad sylweddol o ffotograffau.
Sylwer:
Sefydlwyd y Casgliad ym 1969 at ddiben diogelu cofnodion dogfennol cymuned lofaol de Cymru. Ar y pryd, roedd dros gant o byllau glo wedi'u cau ers gwladoli’r diwydiant, roedd rhagor o byllau dan fygythiad ac roedd perygl y byddai cofnodion o'r fath yn cael eu dinistrio. Yn ffodus, roedd swyddogion Undeb Cenedlaethol y Glowyr (Ardal De Cymru) yn ymwybodol o'r broblem a dechreusant drosglwyddo eu cofnodion hanesyddol i Lyfrgell Coleg Prifysgol Abertawe, gan annog cyfrinfeydd yr Undeb i wneud yr un peth.
Ym 1971 sefydlwyd Prosiect Hanes Maes Glo De Cymru, wedi'i ariannu gan y Cyngor Ymchwil Gwyddor Gymdeithasol, er mwyn dod o hyd i lawysgrifau a deunydd argraffedig o bwys archifol a'u casglu. Roedd y prosiect, a barhaodd tan 1974, mor llwyddiannus y gynhaliwyd ail brosiect rhwng 1979 a 1982. Casglwyd swm sylweddol iawn o ddeunydd archif gan gyfrinfeydd a sefydliadau glowyr, cymdeithasau cydweithredol ac unigolion. Agwedd arall ar y prosiect oedd recordio cyfweliadau â phobl a oedd yn ymwneud â'r gymuned lofaol.