- Disgrifiad
Mae'r proffesiwn cyfreithiol yn newid yn gynt nag erioed o'r blaen o ganlyniad i ddatblygiadau ym maes deallusrwydd artiffisial a thechnolegau cysylltiedig. Mae'n rhaid i gyfreithwyr barhau i amddiffyn rheolaeth cyfraith a hyrwyddo mynediad i gyfiawnder ond, ar yr un pryd, disgwylir iddynt ddysgu sgiliau newydd i fabwysiadu technoleg, arloesi a rhoi technoleg gyfreithiol ar waith yn eu hymarfer.
Bydd myfyrwyr yn dilyn cyrsiau mewn dau faes cyffredinol - sut mae deallusrwydd artiffisial yn cael ei ddefnyddio yn y Gyfraith (e.e. cyflwyniad i ddamcaniaeth, technegau ac offer) a sut mae'r Gyfraith yn berthnasol i ddeallusrwydd artiffisial (e.e. effeithiau cyfreithiol, rheoleiddiol a moesegol awtomatiaeth a mynediad i wybodaeth). Bydd myfyrwyr yn dysgu cysyniadau deallusrwydd artiffisial ac yn defnyddio offer i ddatblygu eu datrysiadau technoleg gyfreithiol eu hunain, byddant yn cael profiad o weithio gyda data ac yn rhoi eu gwybodaeth ar waith mewn aseiniadau ymarferol.
- Pynciau sy'n Debygol o Gael eu Trafod
Deallusrwydd artiffisial a'r gyfraith
Awtomeiddio gwasanaethau gyfreithiol
Meddwl cyfrifiadol ar gyfer cyfreithwyr
Dadansoddi meintiol a gweithio gyda Data Mawr
Blockchain/technoleg cyfriflyfr dosbarthedig
Y gyfraith a deallusrwydd artiffisial
Hawliau ac atebolrwydd yn yr economi ddigidol
Gwasanaethau cyfreithiol mewn byd digidol
Entrepreneuriaeth technoleg gyfreithiol
Eiddo deallusol digidol
Traethawd hir NEU brosiect technoleg gyfreithiol
- Dyddiad Cychwyn Bwriededig
- Mis Hydref 2018
Cwblhewch y ffurflen isod fel y gallwn yrru mwy o wybodaeth atoch am y rhaglen radd hon pan ddaw ar gael e.e. modiwlau, ffioedd, dyddiad dechrau ayyb.