Benthyciadau ar gyfer Gradd Meistr a Addysgir
Myfyrwyr sy’n byw yng Nghymru
Mae Cyllid Myfyrwyr Cymru wedi cyhoeddi y bydd benthyciadau ôl-raddedig ar gael i fyfyrwyr sy'n byw yng Nghymru ac sy'n dechrau cwrs lefel Meistr mewn unrhyw brifysgol yn y DU (gan gynnwys Abertawe) ym mlwyddyn academaidd 2018/19.
Mae'r manylion llawn yn aros am gymeradwyaeth reoleiddiol, ond maent yn cynnwys:
- Benthyciad o hyd at £10,280 tuag at gostau astudio am gymhwyster ôl-raddedig, gan gynnwys ffioedd dysgu a chostau byw (sy'n cael eu talu'n uniongyrchol i chi).
- Ar gael i fyfyrwyr sy'n byw yng Nghymru.
- Ar gael i fyfyrwyr o dan 60 oed.
- Ar gael i fyfyrwyr nad oes ganddynt gymhwyster lefel Meistr eisoes (mae myfyrwyr â Thystysgrif Ôl-raddedig a Diploma Ôl-raddedig yn gymwys i dderbyn y benthyciad)
- Nid yw'n destun prawf modd (nid yw'n amodol ar incwm eich teulu).
- Mae cyrsiau meistr a addysgir a chyrsiau ymchwil yn gymwys, gan gynnwys cyrsiau MA, MSc, LLM, MRes, MPhil, MA drwy Ymchwil, ac MSc drwy Ymchwil.
- Ar gael ar gyfer rhaglenni Meistr amser llawn a rhan-amser (rhaid bod y cyrsiau cymwys yn para naill ai blwyddyn neu ddwy flynedd amser llawn; neu ddwy neu bedair blynedd rhan-amser). Rhaid bod cwrs rhan-amser cyfwerth ag o leiaf 50% o hyd cwrs amser llawn ar ddechrau'r cwrs, bob blwyddyn academaidd). Mae cyrsiau rhan-amser tair blynedd heb unrhyw gyfatebiaeth amser llawn yn gymwys hefyd.
- Byddwch yn dechrau ad-dalu pan fyddwch yn ennill dros £21,000 y flwyddyn. Bydd ad-daliadau'n seiliedig ar 6% o'ch incwm dros y trothwy hwn (ad-delir benthyciadau israddedig ar sail 9% o incwm).
- Os oes gennych fenthyciad israddedig gan y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr, byddwch yn ei ad-dalu ar yr un pryd â'r benthyciad ôl-raddedig. Er enghraifft, os ydych yn ennill £25,000 y flwyddyn, byddwch yn ad-dalu cyfanswm o £50 y mis (£30 ar gyfer y benthyciad israddedig ac £20 ar gyfer y benthyciad ôl-raddedig).
Bydd ceisiadau am y Benthyciad i Fyfyrwyr Ôl-raddedig o Gymru'n agor yn haf 2018 ar gyfer cyrsiau sy'n dechrau ym mis Medi 2018
Am ragor o wybodaeth, ewch i: www.studentfinancewales.co.uk/postgraduate-students.aspx#.WT-tgevyuUk
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am fenthyciadau ôl-raddedig yn un o'n Diwrnodau Agored.
Myfyrwyr sy’n byw yn Lloegr
Mae Student Finance England yn darparu benthyciadau ôl-raddedig i fyfyrwyr sy'n byw yn Lloegr ac sy'n dechrau cyrsiau lefel meistr mewn unrhyw brifysgol yn y DU (gan gynnwys Abertawe) ym mlwyddyn academaidd 2018/19.
Dyma rai o nodweddion allweddol y benthyciad:
Benthyciad o hyd at £10,280 tuag at gostau astudio am gymhwyster ôl-raddedig, gan gynnwys ffioedd dysgu a chostau byw (sy'n cael eu talu'n uniongyrchol i chi).
Ar gael i fyfyrwyr sy'n byw yn Lloegr.
Ar gael i fyfyrwyr o dan 60 oed.
Ar gael i fyfyrwyr nad oes ganddynt gymhwyster lefel Meistr eisoes (mae myfyrwyr â Thystysgrif Ôl-raddedig a Diploma Ôl-raddedig yn gymwys i dderbyn y benthyciad)
Nid yw'n destun prawf modd (nid yw'n amodol ar incwm eich teulu).
Mae cyrsiau meistr a addysgir a chyrsiau ymchwil yn gymwys, gan gynnwys cyrsiau MA, MSc, LLM, MRres, MPhil, MA drwy Ymchwil ac MSc drwy Ymchwil.
Ar gael ar gyfer rhaglenni Meistr amser llawn a rhan-amser (rhaid bod y cyrsiau cymwys yn para naill ai blwyddyn neu ddwy flynedd amser llawn; neu ddwy neu bedair blynedd rhan-amser). Rhaid bod cwrs rhan-amser cyfwerth ag o leiaf 50% o hyd cwrs amser llawn ar ddechrau'r cwrs, bob blwyddyn academaidd). Mae cyrsiau rhan-amser tair blynedd heb unrhyw gyfatebiaeth amser llawn yn gymwys hefyd.
Byddwch yn dechrau ad-dalu pan fyddwch yn ennill dros £21,000 y flwyddyn. Bydd ad-daliadau'n seiliedig ar 6% o'ch incwm dros y trothwy hwn (ad-delir benthyciadau israddedig ar sail 9% o incwm).
Os oes gennych fenthyciad israddedig gan y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr, byddwch yn ei ad-dalu ar yr un pryd â'r benthyciad ôl-raddedig. Er enghraifft, os ydych yn ennill £25,000 y flwyddyn, byddwch yn ad-dalu cyfanswm o £50 y mis (£30 ar gyfer y benthyciad israddedig ac £20 ar gyfer y benthyciad ôl-raddedig).
Gellir lawrlwytho taflen wybodaeth yma: http://media.slc.co.uk/sfe/nysf/pgl/sfe_pgl_main_guide_1617_d.pdf
Bydd ceisiadau ar gyfer cyrsiau sy'n dechrau ym mis Medi 2018 yn agor yn haf 2018.
Am ragor o wybodaeth, ewch i: www.gov.uk/postgraduate-loan/how-to-apply
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am fenthyciadau ôl-raddedig yn un o'n Diwrnodau Agored.
Myfyrwyr sy'n byw yng Ngogledd Iwerddon
Mae Adran yr Economi Gogledd Iwerddon wedi cyhoeddi bod benthyciadau o hyd at £5,500 yn debygol o fod ar gael i fyfyrwyr sy'n byw yng Ngogledd Iwerddon ac sy'n dymuno astudio cyrsiau ôl-raddedig (hyd at lefel Meistr) mewn prifysgol yn y DU ym mlwyddyn academaidd 2018/19.
Disgwylir y caiff manylion llawn y cynllun benthyciadau hwn eu cadarnhau yn 2017. Am ragor o wybodaeth, ewch i: www.nidirect.gov.uk/articles/financing-your-postgraduate-course
Myfyrwyr sy'n byw yn yr Alban
Mae Llywodraeth yr Alban wedi cadarnhau cynlluniau ar gyfer cynllun benthyciadau'r Alban yn 2018/19. Mae'n debygol y bydd myfyrwyr o'r Alban yn gallu benthyca hyd at £10,000 (i'w gadarnhau), ond ni fyddant yn gymwys oni bai eu bod yn astudio mewn prifysgol yn yr Alban.
Os ydych yn fyfyriwr sy'n byw yn yr Alban a hoffech astudio ym Mhrifysgol Abertawe, ewch i'n tudalennau ysgoloriaethau a ffynonellau cyllid amgen am gyngor ar sut i ariannu'ch cwrs.
Caiff manylion pellach am yr holl gynlluniau benthyciadau eu hychwanegu at y wefan hon cyn gynted ag y byddant ar gael. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am fenthyciadau ôl-raddedig yn un o'n Diwrnodau Agored.
Myfyrwyr sy'n byw yn yr UE/yr Ardal Economaidd Ewropeaidd neu weithwyr mudol o'r Swistir/plant dinesydd y Swistir neu weithiwr mudol o Dwrci
Mae'n bosib y byddwch yn gymwys am gynlluniau benthyciadau ôl-raddedig Cymru a Lloegr.
Os hoffech astudio ym Mhrifysgol Abertawe, bydd angen i chi wneud cais am gynllun benthyciadau ôl-raddedig Cymru. Darllenwch yr wybodaeth uchod ar gyfer myfyrwyr sy'n byw yng Nghymru, neu cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.
Bydd ceisiadau am gynllun benthyciadau ôl-raddedig Cymru yn cael eu derbyn yn haf 2018.