Sut gall gradd ôl-raddedig fod o fudd i'm gyrfa?

Mae gan astudiaethau ôl-raddedig lawer o fuddion, gan gynnwys:

  • Gwell potensial ar gyfer cyflogaeth – mae dros 300,000 o fyfyrwyr yn graddio gyda gradd israddedig bob blwyddyn yn y Deyrnas Unedig. Gall gradd ôl-raddedig eich helpu i ddisgleirio ymhlith y dorf mewn marchnad swyddi sy'n fwyfwy cystadleuol a llawn
  • Datblygiad gyrfa – gall cymhwyster ôl-raddedig eich arfogi â sgiliau a phrofiad y gallwch eu trosglwyddo i'r gweithle
  • Boddhad deallusol – os ydych chi'n frwd dros faes pwnc penodol ac am ehangu'ch gwybodaeth, gallai gradd ôl-raddedig fod yn berffaith i chi
  • Newid cyfeiriad – am newid maes pwnc ar ôl eich gradd israddedig? Gallai cwrs trosi o Brifysgol Abertawe eich helpu i newid cyfeiriad eich astudiaethau a/neu'ch gyrfa

Sut gall Prifysgol Abertawe fy helpu i?

O'r funud y byddwch yn cyrraedd Abertawe, bydd staff arbenigol Academi Gyrfaoedd Cyflogadwyedd Abertawe yn eich helpu i gynllunio'ch dyfodol ac i baratoi ar ei gyfer. Byddant yn eich helpu i nodi a datblygu'r sgiliau a fydd yn eich galluogi i wneud y gorau o'ch gradd ôl-raddedig, ac i ehangu'ch gorwelion gyrfa. Mae'r gwasanaethau sydd ar gael yn cynnwys:

  • Arweiniad unigol am chwilio am swyddi
  • Gweithdai ysgrifennu CV a pharatoi ar gyfer cyfweliad
  • Lleoliadau gwaith tymor byr
  • Gwobr Cyflogadwyedd Abertawe
  • Mentrau cyflogadwyedd sy'n benodol i'r coleg

Mae llawer o'n cyrsiau ôl-raddedig wedi'u hachredu gan gyrff proffesiynol, gan sicrhau y caiff eich cymhwyster terfynol ei gydnabod gan gyflogwyr.