Trosolwg Cwrs
Mae gan y Dyniaethau Digidol yn Abertawe gryfderau ymchwil mewn rhaglenni digidol arloesol ac astudiaethau beirniadol o ddiwylliant digidol mewn sawl maes, gydag ymchwilwyr yn y Celfyddydau, y Dyniaethau a Gwyddor Gymdeithasol yn cydweithio â Chyfrifiadurwyr. Mae'r meysydd hyn yn cynnwys rhaglenni a dyfeisiau ar gyfer sector treftadaeth y DU ac yn rhyngwladol; hanes deallusol a llenyddol; golygu digidol; rhaglenni mapio arloesol; ieithyddiaeth gymhwysol a chyfieithu; y cyfryngau torfol digidol a'r cyfryngau arbrofol; diwylliannau ar-lein; addysgeg ddigidol; diogelwch digidol; rhyfel a throseddu; ac effeithiau cymdeithasol technolegau digidol mewn gwledydd cyfoethog a thlawd. Rydym yn gartref i Ganolfan y Celfyddydau a'r Dyniaethau Digidol (CODAH), sy'n cysylltu ymchwilwyr y celfyddydau a'r dyniaethau, gwyddor gymdeithasol a chyfrifiadura.