Trosolwg Cwrs
Mae'r PhD yn radd ymchwil y gellir ei chwblhau dros dair blynedd gan fyfyrwyr amser llawn neu chwe blynedd gan fyfyrwyr rhan-amser. Mae myfyrwyr yn gwneud ymchwil gwreiddiol i bwnc penodol sy'n ymwneud â hanes, archeoleg, crefydd, ieithoedd (pob cyfnod iaith yr Hen Aifft, gan gynnwys Demoteg a thestunau hieroglyffig temlau Groeg-rufeinig), llenyddiaeth a diwylliant yr Hen Aifft, gan gynnwys y cyfnodau Ptolemaidd a Rhufeinig.
Mae'r MPhil yn radd ymchwil y gellir ei chwblhau dros ddwy flynedd gan fyfyrwyr amser llawn neu bedair blynedd gan fyfyrwyr rhan-amser. Mae myfyrwyr yn gwneud ymchwil gwreiddiol i bwnc penodol sy'n ymwneud â hanes, archeoleg, crefydd, ieithoedd (pob cyfnod iaith yr Hen Aifft, gan gynnwys Demoteg a thestunau hieroglyffig temlau Groeg-rufeinig), llenyddiaeth a diwylliant yr Hen Aifft, gan gynnwys y cyfnodau Ptolemaidd a Rhufeinig.