Ymchwil Ôl-raddedig Ymchwil - y Manteision
Sgiliau uwch a chyflogadwyedd
Mae manteision gradd ymchwil yn cynnwys gwell sgiliau a chyflogadwyedd, hyblygrwydd a boddhad deallusol.
Bydd y sgiliau a’r rhinweddau y byddwch yn eu datblygu yn ystod eich gradd ymchwil yn gwella eich CV ac yn eich helpu i ragori mewn marchnad swyddi i raddedigion sy’n hynod gystadleuol.
Gan mai cymharol ychydig o raddedigion sy’n dewis astudiaethau ymchwil, nid oes amheuaeth y bydd y cymhwyster lefel uwch yn rhoi elfen ‘sefyll allan’ o blith y lleill i chi. Mae natur rhaglen ymchwil – wrth ganolbwyntio ar brosiect ymchwil mawr – yn rhoi modd i chi ddatblygu set o sgiliau unigryw ac arbenigol, gan gynnwys rheoli prosiect, sgiliau ysgrifennu uwch a sgiliau ymchwil arbenigol.
Gallwch hefyd ddisgwyl datblygu eich sgiliau trosglwyddadwy yn y meysydd canlynol:
- Cyfathrebu
- Dadansoddi data
- TG uwch
- Datrys problemau
- Meddwl yn annibynnol
- Meddwl yn feirniadol
- Trefnu
- Rheoli amser
Ar ddiwedd eich gradd ymchwil, bydd gennych gymhwyster sy’n cael ei barchu’n rhyngwladol, a chymhwyster y mae cyflogwyr o bob math yn ei gydnabod ac yn ei wobrwyo. Byddwch yn fwy tebygol o gael swydd ac un sy’n denu cyflog uwch, sy'n golygu y gallwch fod yn hyderus o gael elw ar eich buddsoddiad yn eich addysg ôl-raddedig.
Paratoi ar gyfer gyrfa ymchwil neu academaidd
Os ydych yn dymuno dilyn gyrfa mewn ymchwil academaidd, bydd doethuriaeth yn hanfodol wrth roi’r sgiliau, profiad a’r cymhwyster gofynnol i chi. Os mai eich dymuniad yw dilyn gyrfa mewn ymchwil y tu allan i’r byd academaidd, mae gradd ymchwil hefyd yn hynod ddymunol gan y bydd gennych y sylfaen ddamcaniaethol a’r profiad ymarferol y mae sefydliadau ymchwil eu hangen.
Hyblygrwydd rhaglen
Os oes yna bwnc yr ydych yn teimlo’n angerddol drosto, neu eich bod yn chwennych y rhyddid i ddewis beth, sut a phryd y byddwch yn astudio, yna mae rhaglen ymchwil yn ddelfrydol i chi.
Bydd gradd ymchwil yn rhoi’r cyfle i chi fynd ar drywydd maes arbenigol sydd o ddiddordeb i chi o’ch astudiaethau blaenorol neu o’ch gyrfa, gan roi modd i chi lywio testun eich astudiaethau mewn ffordd unigryw.
Cyn belled â bod gennym yr arbenigedd academaidd i’ch cynghori ac arwain eich astudiaethau, rydych yn rhydd o’r dechrau un i ddewis eich pwnc astudio eich hun, ei gynllunio a mynd ati i wneud yr ymchwil.
Defnyddiwch ein cyfeirlyfr o arbenigedd ymchwil i ddarganfod a oes gennym arbenigwyr yn eich maes pwnc a fyddai’n gallu goruchwylio eich astudiaethau.
Boddhad deallusol
O ddechrau un eich rhaglen ymchwil, chi fydd yn penderfynu ar gyfeiriad eich astudiaethau: o nodi problem ymchwil a dewis y fethodoleg ymchwil briodol, i gynnal yr ymchwil a dadansoddi ac ysgrifennu’r canlyniadau, byddwch yn rheoli eich prosiect ymchwil eich hun a bydd gennych y rhyddid i archwilio cyfleoedd newydd wrth iddynt godi.
O ganlyniad i hyn, cewch y boddhad o ymwneud â rhaglen sy’n eich ysgogi yn feddyliol, ac sy’n rhoi cyfle i chi ychwanegu at y corff o wybodaeth yn eich maes ac i gyhoeddi eich canlyniadau.
Byddwch yn cael y cyfle i gydweithio â rhai o academyddion mwyaf blaengar y byd a dod yn arbenigwr eich hun. Yn sicr, bydd eich traethawd ymchwil terfynol, wedi’i rwymo mewn lledr, yn parhau i fod yn destun balchder aruthrol am flynyddoedd lawer ar ôl i chi gwblhau eich astudiaethau.