PhD/MPhil Peirianneg Fecanyddol

  1. Amrywiadau Cwrs
    Nomenclature Duration Mode Of Attendance
    Ph.D. 3Bl LlA
    Ph.D. 6Bl RhA
    M.Phil. 2Fl LlA
    M.Phil. 4Bl RhA
  2. Cynnig arferol:
    DU 2.1

Trosolwg Cwrs

Mechanical Engineering

Drwy ein rhyngweithio agos gyda chwmnïau mawr fel Ford a chwmni dur Tata, yn ogystal â busnesau bach a chanolig, mae Prifysgol Abertawe yn cynnig sylfaen ardderchog ar gyfer eich ymchwil fel myfyriwr PhD neu MPhil mewn Peirianneg Deunyddiau.

Nodweddion Allweddol

Ledled y Deyrnas Unedig a thramor, mae gwaith yn digwydd neu wedi digwydd yn ddiweddar ym Mhrifysgol Abertawe gyda chwmnïau fel:

Astra-Zeneca
British Aerospace
Qinetiq
GKN
Rolls-Royce
SKF
Freeport
One Steel
Barrick Gold

Mae ymchwil ym maes Peirianneg ym Mhrifysgol Abertawe yn amlddisgyblaethol ei natur, yn ymgorffori ein cryfderau mewn meysydd ymchwil ledled y disgyblaethau Peirianneg.
 
Mecaneg gyfrifiadurol yw sylfaen mwyafrif y prosiectau PhD ac MPhil yn y disgyblaethau peirianneg hyn.
 
Caiff y rhaglen hon ei chynnal yng Nghampws y Bae, Prifysgol Abertawe o fis Medi 2015.

Disgrifiad

Dysgwch ragor am rai o’r staff academaidd sy’n goruchwylio traethodau ymchwil ym maes Peirianneg Fecanyddol:

Gofynion Mynediad

Gofyniad mynediad y PhD neu’r MPhil Peirianneg Fecanyddol yw gradd anrhydedd dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch mewn Peirianneg neu mewn disgyblaeth berthnasol debyg.

astudio blaenorol sy’n gyfwerth â’r anghenion derbyn a nodir uchod. Mae’r Swyddfa Mynediad Ôl-raddedig yn falch o’ch cynghori a yw eich cymwysterau’n addas i gael mynediad i’r cwrs yr hoffech ei astudio. E-bostiwch admissions@swansea.ac.uk am ragor o wybodaeth os gwelwch yn dda.

Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, bydd angen i chi fod wedi pasio’n ddigonol mewn cymhwyster Iaith Saesneg derbyniol i wneud yn sicr y cewch y budd mwyaf o astudio yn Abertawe. Rydym yn ystyried ystod eang o gymwysterau, yn cynnwys Prawf Saesneg Prifysgol Abertawe Prawf IELTS y Cyngor Prydeinig (gyda sgôr isaf o 6.5 a 5.5. yn y ddau ran). Ceir rhestr lawn o brofion Saesneg derbyniol yma: www.swansea.ac.uk/international/students/requirements/english-requirements

Fel rheol disgwylir i ymgeiswyr y rhaglen hon fodloni â’r cymwysterau. Mae gan y Coleg/Ysgol yr hawl i ofyn am gymwysterau neu raddau academaidd uwch. Wrth wneud penderfyniadau mynediad fe ystyrir nid yn unig cymwysterau academaidd blaenorol, ond hefyd unrhyw ffactorau yn cynnwys safon y cynnig/crynodeb ymchwil a gyflwynir gan yr ymgeisydd, eu perfformiad yn y cyfweliad (os yw’n ofynnol), pa mor gystadleuol yw llefydd ar y cwrs a phrofiad proffesiynol perthnasol (lle bo'n addas).

Sut i Wneud Cais

Unwaith y byddwch wedi dewis pwnc yr hoffech weithio arno, byddem yn argymell y dylech gyflwyno cynnig ymchwil a thrafod hyn gyda Thiwtor Derbyn ar gyfer y maes pwnc cyn i chi wneud cais. Gallwch anfon e-bost at peirianneg@abertawe.ac.uk i ddatgan diddordeb

Gwnewch gais ar-lein a dilynwch statws eich cais ar gyfer PhD neu MPhil www.swansea.ac.uk/applyonline 

Os ydych chi’n fyfyriwr rhyngwladol, dysgwch fwy am wneud cais am y PhD neu’r MPhilwww.swan.ac.uk/international/students/apply

Ffioedd Dysgu

Y ffioedd dysgu blynyddol ar gyfer blwyddyn academaidd 2018/19 fydd:

D.U./U.E. Rhyngwladol
Ph.D. Llawn-amser £4,260 £19,000
Ph.D. Rhan-amser £2,130 £9,500
M.Phil. Llawn-amser £4,260 £19,000
M.Phil. Rhan-amser £2,130 £9,500

Mae ffioedd dysgu ar gyfer blynyddoedd o astudiaeth ar ôl eich blwyddyn gyntaf yn amodol ar gynnydd o 3%.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ffioedd a sut i dalu ar ein tudalen ffioedd dysgu.

Os bydd eich cwrs yn cychwyn ym mis Ionawr, Ebrill neu Orffennaf 2018, gweler costau ffioedd 2017/18 ar ein tudalen ffioedd dysgu.

Efallai y byddwch yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I gael gwybod am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a chyfleoedd cyllido eraill sydd ar gael, ewch i dudalen ysgoloriaethau a bwrsariaethau'r Brifysgol.

Myfyrwyr rhyngwladol ac astudiaethau rhan-amser: Os ydych angen fisa myfyriwr Haen 4 mae’n rhaid i chi fod yn astudio’n llawn-amser. Os ydych yn y Deyrnas Unedig dan gategori fisa gwahanol, gallai fod yn bosibl i chi astudio’n rhan-amser. Gweler ein tudalen astudiaethau rhan-amser a fisâu am ragor o wybodaeth.

Myfyrwyr presennol: Mae gwybodaeth bellach am eich costau ffioedd ar ein tudalen ffioedd dysgu.

Costau Ychwanegol

Nid yw'r ffioedd dysgu yn talu am brynu llyfrau nac offer swyddfa, argraffu, rhwymo traethodau na chostau llungopïo.

Ni phennwyd costau ychwanegol gorfodol ar gyfer y cwrs hwn.