‘360’ – yng nghanol chwaraeon traeth a dwr ym Mae Abertawe.

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Wedi'i lleoli ar flaen y traeth, yng nghanol Bae Abertawe, bydd y ganolfan chwaraeon traeth a dwr hir ddisgwyliedig yn arddangos ei delwedd newydd sbon yn fuan.

Mae'r cwmni nid er elw a sefydlwyd gan Brifysgol Abertawe a Bay Leisure Limited i weithredu canolfan chwaraeon traeth a dwr newydd sy'n cael ei hadeiladu ar flaen traeth Bae Abertawe wedi datgelu heddiw'r brand a'r ddelwedd weledol ar gyfer y fenter newydd. 

Mae enw'r Ganolfan newydd - 360 - yn cynrychioli cyfanrwydd, hollgynhwysedd, a'r canolbwynt y bydd y cyfleuster yn ei gynnig i'r gymuned leol, myfyrwyr, pobl frwdfrydig a thwristiaid sy'n ymweld.

360 brand logo

Bydd 360 - Chwaraeon Traeth a Dwr yn cynnig amrywiaeth o chwaraeon, gweithgareddau a hyfforddiant pan fydd ei drysau'n agor y mis Medi hwn. Fel rhan o ddatblygiad y brand mae logo wedi'i greu sy'n cynnig delwedd weledol fodern, ddynamig a chyffrous, dyluniad trawiadol gafaelgar a lliwiau cyfoes sy'n adlewyrchu'r gweithgareddau a gynigir. Bydd y brandio newydd yn gosod y Ganolfan ar wahân ar raddfa leol a chenedlaethol.

Meddai Ben Lucas, Rheolwr Datblygu Busnes a Marchnata, Prifysgol Abertawe;

 "Mae'r cyfleuster newydd yn sefyll reit yng nghanol y gymuned leol ac rydym yn awyddus i ddatblygu'r Ganolfan fel ased i'r ddinas sy'n hyrwyddo chwaraeon i bawb. 

"Roeddem am wneud yn siwr ein bod yn datblygu brand a oedd yn gyson â'n gwerthoedd craidd a chyda 360 rydym yn credu ein bod wedi creu delwedd sy'n groesawgar ac yn hygyrch i bawb ond sydd hefyd yn cyfleu agwedd broffesiynol ac ymrwymiad i wasanaeth o safon gorau'r byd."

Meddai Renee Godfrey, personoliaeth y BBC, Pencampwraig Syrffio Genedlaethol Cymru a Phrydain a Chyn-fyfyriwr o Brifysgol Abertawe: Rydw i'n cefnogi'r Ganolfan Ragoriaeth Chwaraeon Dwr arfaethedig yn gyfan gwbl. Mae'r delfrydau y tu ôl i'r brand 360 - 'cyfanrwydd, hollgynhwysedd a chanolbwynt y cyfleuster' yn mynd llaw yn llaw ag agwedd Prifysgol Abertawe tuag at addysg a chwaraeon - bydd yn ychwanegu gwerth pellach i'r profiad myfyrwyr, yn ogystal â'r hyn y mae'r Ddinas yn gallu ei gynnig o ran chwaraeon. Mae hi mor gyffrous!"

Meddai'r Canghellor Nick Bradley, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe ar gyfer Adfywio: "Mae Abertawe’n datblygu enw yn rhyngwladol yn gyflym fel dinas chwaraeon o safon fyd-eang. Mae angen i ni fanteisio ar ein lleoliad arfordirol syfrdanol a bydd y ganolfan chwaraeon dwr newydd yn creu mwy o fywiogrwydd ar hyd y promenâd. Bydd y ganolfan newydd yn Ychwanegu at yr hyn sydd eisoes yn ddarpariaeth chwaraeon ardderchog yn Abertawe, diolch i gyfleusterau fel Pwll Cenedlaethol Cymru, ein rhwydwaith o ganolfannau hamdden cymunedol a Stadiwm Liberty. Bydd hefyd yn hwb enfawr cael y ganolfan chwaraeon dwr ar lwybr sy'n borth allweddol i faes chwarae awyr agored Gwyr."

Dros yr wythnosau sydd i ddod bydd y brand newydd yn cael ei ddatblygu i gynnwys gwefan ryngweithiol, presenoldeb cyfryngau cymdeithasol llawn ac ymgyrch hysbysebu cyn lansio, a fydd yn adlewyrchu'r cynigion a'r gweithgareddau a fydd ar gael pan gaiff y Ganolfan ei lansio.  Bydd hyn yn cynnwys syrffio barcud, padl-byrddio, caiacio, pêl-foli traeth a chaffi ger y traeth.

Mae gwaith adeiladu'r ganolfan gwerth £1.4m yn cael ei reoli gan Ddinas a Sir Abertawe ac mae wedi'i gefni gan Lywodraeth Cymru drwy Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, Croeso Cymru a’r rhaglen Ardal Adfywio.