Abertawe, Twrci, Kurdistan: ymweliad a fydd yn cryfhau cysylltiadau pwysig

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd Prifysgol Abertawe’n agor hyd yn oed mwy o ddrysau i’r byd o ganlyniad i ymweliad â Thwrci a Kurdistan gan yr Is-ganghellor Richard B Davies.

Mae hi eisoes yn denu myfyrwyr a staff o ar draws 100 o wledydd ac mae ganddi gysylltiadau ymchwil sy’n ymestyn ar draws y byd i gyd, ond bydd Prifysgol Abertawe’n agor hyd yn oed mwy o ddrysau i’r byd o ganlyniad i ymweliad â Thwrci a Kurdistan gan yr Is-ganghellor Richard B Davies.  Mae’r Is-ganghellor yn rhan o grwp bach a fydd yn cynnal ymweliad byr â’r rhanbarth ynghyd â Gweinidog Addysg Llywodraeth y DU, David Willetts.

Mae gan Abertawe gysylltiadau cryf â Thwrci yn barod, a amlygwyd drwy ymweliad â’r Brifysgol gan lysgennad Twrci i’r DU y llynedd. Mae 22 myfyriwr o Dwrci yn y brifysgol, yn astudio pob math o bynciau o beirianneg i’r gyfraith. Mae gwaith ymchwil ar y cyd rhwng prifysgolion Abertawe a Thwrci ar y gweill mewn meysydd megis peirianneg fecanyddol a diogelwch y rhyngrwyd. 

Mae Kurdistan, rhanbarth o Iraq â’i llywodraeth ei hun, bellach yn datblygu cysylltiadau tramor mewn meysydd megis Peirianneg ac astudiaethau Iaith Saesneg. Y DU yw’r dewis cyntaf ar gyfer astudiaethau dramor i bobl yn Kurdistan.

Yn ystod yr ymweliad, bydd yr Athro Davies yn ymweld â rhai sefydliadau sydd eisoes â chysylltiadau ag Abertawe, yn edrych am gyfleoedd i adeiladu cysylltiadau pellach, a hefyd yn cwrdd â myfyrwyr o Dwrci sy’n treulio amser yn astudio yn Abertawe.

Meddai’r Athro Davies:

“Ers ei sefydliad, mae Prifysgol Abertawe wedi croesawu cyfleoedd i feddwl ar raddfa fyd-eang. Mae’r Brifysgol yn denu myfyrwyr a staff o ar draws cant o wledydd. Mae ein Hysgolion Academaidd yn mwynhau cysylltiadau cryf a chynhyrchiol â sefydliadau partner ar draws y byd, ac mae llawer o waith addysgu ac ymchwil y Brifysgol yn berthnasol yn fyd-eang.

“Mae prifysgolion yn darparu drysau a ffenestri i’r byd. Mae’r Brifysgol wedi bod yn datblygu cysylltiadau â Thwrci dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf ac rydym yn dechrau adeiladu cysylltiadau â Kurdistan. Bydd yr ymweliad hwn yn helpu cryfhau’r cysylltiadau hynny, sy’n bwysig os yw gwledydd am ehangu eu gorwelion academaidd a chyfnewid arbenigedd a gwybodaeth.”