Addysg yn pontio Bwlch y Cenedlaethau Llwyddiant Mam a Merch wrth gipio Gwobr Dysgu

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Cafwyd dathliad dwbl ar gyfer mam a merch o Ben-y-bont ar Ogwr sydd wedi ennill Gwobr Dysgu y Teulu yng Ngwobrau Dysgwyr a Thiwtoriaid eleni.

Family Learner award Enillodd Angela Reid a Sammy-Jo Atkins eu gwobrau mewn seremoni a drefnwyd gan Grwp Hyrwyddo Addysg Castell-nedd Port Talbot mewn partneriaeth â NIACE (Y Sefydliad Cenedlaethol dros Addysg Barhaus i Oedolion) yng Ngwesty'r Towers yn Jersey Marine. Mae'r seremoni yn rhoi cyfle i ddysgwyr a thiwtoriaid i ennill cydnabyddiaeth am eu hymdrechion ac i arddangos eu hymrwymiad i addysg.

Dechreuodd Angela a Sammy-Jo ar y Dystysgrif Sylfaen Addysg Uwch yn y Dyniaethau 2 flynedd rhan-amser ym mis Medi 2011 yn y Ganolfan Ddatblygu NSA yn Sandfields, Port Talbot. Mae'r rhaglen, a gyflwynir gan yr Adran Addysg Barhaus i Oedolion (DACE) ym Mhrifysgol Abertawe, wedi ei hanelu at oedolion sy'n awyddus i gymryd eu cam cyntaf mewn Addysg Uwch. Mae'r Dystysgrif Sylfaen yn cwmpasu ystod eang o bynciau sy’n gysylltiedig â’r dyniaethau wedi eu hategu gan becyn cynhwysfawr o sgiliau astudio a chymorth TG.

Mae Angela a Sammy-Jo eisoes wedi cwblhau modiwlau mewn hanes, cwnsela a seicoleg ac yn ddiweddar maent wedi dechrau astudio cymdeithaseg. Mae Angela yn wir fwynhau’r rhaglen gan ei bod yn ffitio o gwmpas ei bywyd bob dydd a dywedodd: "Mae'n wych bod Sam a finnau’n medru helpu ein gilydd drwy’r cwrs. Mae e wedi dod â ni’n nes at ein gilydd gan ein bod yn brysur gyda phlant ac nid ydym yn cael llawer o amser i dreulio gyda'n gilydd – felly mae’r cwrs yn rhoi diwrnod i ni’n hunain! Mae'r cwrs wedi rhoi bywyd newydd i mi, amser gwerthfawr gyda fy merch a dealltwriaeth o addysg. Yn fy marn i, mae unrhyw beth yn bosib. Nawr does dim amheuaeth gen i y gallaf gyflawni unrhyw beth yr wyf yn rhoi fy meddwl ar wneud. "

Fel menyw ifanc benderfynol sydd â’i meddwl ar ei gwaith, mae Sammy-Jo yn amlwg yn ymrwymedig i’w hastudiaethau ac yn credu bod y cwrs wedi ei galluogi i ennill llawer o hyder. Ei champ fwyaf hyd yma yw ennill y marc uchaf yn y dosbarth am ei thraethawd cyntaf. Ychwanegodd: "Roeddwn i hefyd yn awyddus i fod yn esiampl dda i’m merch, Tia, fel y gall hi weld fy mod wedi gwneud rhywbeth â’m bywyd a'i bod hi’n gallu cyflawni unrhyw beth mewn bywyd os bydd hi’n gweithio'n galed. "

Cafodd y fam a’r ferch eu henwebu gan Gydlynydd y Rhaglen Sylfaen Joanna Ward a wnaeth eu llongyfarch, a dweud ei bod wedi eu gweld yn datblygu o fod yn fenywod tawel, brwdfrydig i fod fyfyrwyr hyderus, meddylgar a hynod o graff, yn awyddus i symud ymlaen gyda'u hastudiaethau lefel prifysgol. "Rwyf wir yn credu y byddai Angela a Sammy-Jo yn fyfyrwyr delfrydol ar gyfer ein cwrs Gradd BA (Anrhydedd) rhan-amser yn y Dyniaethau ac maent yn fwy nag abl i symud ymlaen at hynny’r flwyddyn nesaf."

Dywedodd yr Athro Colin Trotman, Cyfarwyddwr / Pennaeth AABO: "Mae Angela a Sammy-Jo yn llwyr haeddu'r wobr hon gan ei bod yn cydnabod eu hymrwymiad i fod yn fyfyrwyr prifysgol rhan-amser gydag AABO. Maent yn profi i fod yn fodelau rôl ardderchog i'w ffrindiau a'u teuluoedd a dymunaf bob llwyddiant i’r ddwy ohonynt  yn ystod blwyddyn nesaf eu hastudiaethau ar y Dystysgrif Sylfaen. "

Am fwy o wybodaeth am raglenni rhan-amser sy'n dechrau ym mis Medi 2012 yn eich cymuned, cysylltwch â AABO ar 01792 602211, neu ewch i http://www.swansea.ac.uk/dace/.