Anrhydedd arbennig i un o ddarlithwyr Prifysgol Abertawe

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Dr Christine James, Uwch-ddarlithydd yn Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe fydd Archdderwydd Eisteddfod Genedlaethol Cymru rhwng 2013-2016.

Cafodd y newyddion ei gyhoeddi gan yr Archdderwydd presennol, Jim Parc Nest yn Seremoni Gyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych a’r Cyffiniau dros y penwythnos.

Dr Christine James 4Derbyniwyd Dr Christine James i’r Orsedd yn 2002, ac mae’n aelod o Fwrdd yr Orsedd ers 2010. Hi fydd y fenyw yn ogystal â’r ddysgwraig gyntaf i ddal y swydd arbennig hon.

Fe’i ganwyd yn Nhonypandy, Cwm Rhondda, a’i magu ar aelwyd uniaith Saesneg. Dysgodd y Gymraeg fel ail-iaith yn Ysgol Ramadeg y Merched, Y Porth, cyn mynd ymlaen i astudio’r Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth.

Enillodd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Eryri a’r Cyffiniau 2005, am ei chasgliad o gerddi, Lluniau Lliw, a ysbrydolwyd gan rai o weithiau celf mwyaf adnabyddus Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Meddai Dr Christine James:

‘'Mae cael bod yn Archdderwydd Cymru yn fraint aruthrol, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr, ond hefyd yn wylaidd iawn, at gael cyflawni'r swydd o fis Mehefin nesaf ymlaen.  Mae'r ffaith mai fi fydd y ferch gyntaf i fod yn Archdderwydd, a hefyd y ddysgwraig gyntaf, yn wefr bersonol ychwanegol. Gobeithio y bydd hyn yn hwb ac yn ysbrydoliaeth i ddysgwyr y Gymraeg ymhobman i ddal ati i feistroli'r iaith.'’

Llun gan Eisteddfod Genedlaethol Cymru