Arbenigwr o Brifysgol Abertawe ar Bolisi Ymfudo yn cael ei Phenodi i Gynghori Pwyllgor Seneddol

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Cyfarwyddwr Canolfan Polisi Ymfudo Prifysgol Abertawe, yr Athro Heaven Crawley, wedi’i phenodi fel cynghorydd arbennig i ymchwiliad gan y Cyd-bwyllgor Seneddol ar Hawliau Dynol.

Mae’r Pwyllgor, a gadeirir gan Dr Hywel Francis AS wedi lansio ymchwiliad i hawliau dynol plant a phobl ifanc mudol digwmni yn y DU, gyda sylw arbennig i’r rhai hynny sy’n ceisio lloches neu sydd wedi bod yn destun i fasnachu mewn pobl. Mae’r pwyllgor yn gobeithio adrodd i’r naill Dŷ gyda’i awgrymiadau, heb fod yn hwyrach na Phasg 2013.

Mae’r Athro Crawley hefyd wedi ymgymryd ag ymchwil ar ran Cyngor Hil Cymru ar gydraddoldeb hiliol a hiliaeth yng Nghymru. Bydd yr Athro Crawley yn rhoi cyflwyniad manwl ar ei chanfyddiadau yn ystod lansiad yr Adroddiad Ymchwil Cydraddoldeb Hiliol yng Nghymru ar ddydd Gwener 23ain Tachwedd yn Adeilad y Pierhead, Bae Caerdydd, 10.30am - 3pm. Bydd digwyddiad Cyngor Hil Cymru yn cynnwys araith prif siaradwr gan y Fonesig Margaret Anstee (cyn gennad cadw heddwch y Cenhedloedd Unedig ac Is-ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig).

Bu’r Athro Crawley hefyd yn cynorthwyo â’n cydweithwyr Ewropeaidd. Bu’n gweithio gyda Chyngor Ewrop ar asesu oed plant sy’n ceisio lloches yn yr Wcráin. Bu’r Athro Crawley’n cyfarfod yn ddiweddar â swyddogion o’r Gweinyddiaethau Iechyd a Mudo yn Kiev a bydd yn dychwelyd am ail gyfarfod yn fuan.