AS yn ail-lansio llyfr ar Sbaen

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae AS Aberafan Dr Hywel Francis yn lansio rhifyn newydd o lyfr ar Ryfel Cartref Sbaen a gyhoeddodd yn gyntaf ym 1984.

Meddau Dr Francis,

“ Mae fy llyfr Miners Against Fascism: Wales and the Spanish Civil War yn cael ei ail-lansio i gyd-ddigwydd â 75 mlynedd ers i blant a oedd yn ffoaduriaid o Wlad y Basg gyrraedd yn y wlad hon.

“ Mae’r llyfr yn adrodd hanes undod pobl Cymru, yn enwedig glowyr, yn eu brwydr am ddemocratiaeth yn Sbaen yn y 1930au.”

Caiff y lansiad ei gynnal yn Llyfrgell Glowyr De Cymru yn Abertawe fel teyrnged i bobl yr ardal a groesawodd y plant hyn ac a sefydlodd gartref iddynt yn Neuadd Sgeti yn Abertawe.

Mae’r llyfr wedi’i chyhoeddi gan Lawrence and Wishart ac mae’r fersiwn newydd hwn ar gyfer 2012 yn cynnwys rhagair newydd a rhestr gyfan, newydd ei chasglu o’r holl wirfoddolwyr o Gymru.  http://www.lwbooks.co.uk/books/archive/Miners_Against_Fascism.html

Dyddiad y lansiad: Dydd Sadwrn 30 Mehefin 2012

Amser: 12 hanner dydd

Lleoliad: Llyfrgell Glowyr De Cymru Prifysgol Abertawe, Hendrefoelan, Heol Gwyr, Abertawe, SA2 7NB. Ffôn: 01792 518603