Blas o Ieithoedd Modern Cyfrwng Cymraeg yn y Brifddinas

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Heidiodd myfyrwyr o Adran Ieithoedd, Cyfieithu a Chyfathrebu Prifysgol Abertawe i Gaerdydd yn ddiweddar i gymryd rhan mewn Cwrs Preswyl Ieithoedd Modern cyfrwng Cymraeg.

Ar y cyd â myfyrwyr o Brifysgol Bangor, Aberystwyth a Chaerdydd, cawsant flas ar astudio ieithoedd trwy gyfrwng y Gymraeg yn ogystal â bwrlwm y brifddinas o’u cartref dros dro yng Ngwersyll yr Urdd Caerdydd.

Cawsant gyflwyniadau defnyddiol gan arbenigwyr yn eu maes, gan gynnwys y Prifardd Mererid Hopwood ac Ellie Jones o CILT Cymru. Soniodd Dr Mererid Hopwood am ‘Botwm y Byd’, prosiect a fydd o ddiddordeb i fyfyrwyr Ieithoedd Modern, Newyddiaduriaeth, Gwleidyddiaeth a Hanes. Testun sesiwn Ellie Jones oedd buddion ieithoedd mewn gyrfa a’r cyfleoedd sydd ar gael yng Nghymru i fyfyrwyr ieithoedd modern.

Yn ogystal, cynhaliwyd cyfres o ddarlithoedd meicro wnaeth roi blas o’r amrywiol fodylau ac arddulliau y gellid cael wrth astudio ieithoedd modern trwy gyfrwng y Gymraeg. Yn eu plith roedd byd y sinema yn Ffrainc, ieithoedd lleiafrifol Ewrop, cyflwyniad i Gatalunya a hanes Patagonia.

Wedi’r holl astudio cawsant oll gyfle i brofi eu doniau ieithyddol trwy gymryd rhan mewn Gramadegolympics a chwis cyffrous ar ddiwylliant Ewrop.

Meddai Bonnie Stephens, myfyrwraig Ffrangeg a Sbaeneg ym Mhrifysgol Abertawe: ‘‘Roedd y cwrs yn addysgiadol iawn a derbyniais lawer o wybodaeth ynglŷn â gwahanol feysydd o astudio ieithoedd modern. Mi wnes i lawer o ffrindiau newydd ac roedd yn braf cael cyfle i gymdeithasu gyda myfyrwyr cyfrwng Cymraeg sy’n astudio’r un pynciau.’’

Ychwanegodd Dr Geraldine Lublin o Adran Ieithoedd, Cyfieithu a Chyfathrebu Prifysgol Abertawe: ‘‘Roedd hi’n braf gweld myfyrwyr o bob rhan o Gymru yn cael y cyfle i gymdeithasu a rhannu eu diddordeb mewn ieithoedd modern trwy gyfrwng y Gymraeg. Hoffwn ddiolch i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol am noddi’r cyfan ac i Wersyll yr Urdd Caerdydd am gael defnyddio eu cyfleusterau penigamp.’’