Caffi Gwyddoniaeth Abertawe Mis Ebrill: The Fermi paradox

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Caffi Gwyddoniaeth Abertawe’n cynnig cyfleoedd i unrhyw un sydd am ganfod mwy am feysydd dadleuol newydd a chyffrous mewn gwyddoniaeth. Mae’r caffi’n anffurfiol ac yn ddifyr ac mae fel arfer yn cael ei gynnal ddydd Mercher olaf bob mis yng Nghanolfan Dylan Thomas. Mae mynediad am ddim ac mae’r sgyrsiau’n dechrau am 7:30pm.

Teitl: The Fermi paradox         

Siaradwr: David Skibinski, Athro Bioleg Esblygol, Prifysgol Abertawe


Dyddiad: Dydd Mercher 25ain Ebrill 2012

Amser: 7.30pm

Lleoliad: Canolfan Dylan Thomas, Abertawe

Mynediad: Am ddim, croeso i bawb


Crynodeb o’r digwyddiad: Mae’r Bydysawd yn anferth gyda miliynau o blanedau lle y gallai bywyd deallus esblygu. Felly pam nad yw estroniaid yn ymweld â ni trwy’r amser, neu’n anfon arwyddion atom?

Gelwir hyn yn The Fermi paradox ar ôl y ffisegwr Eidalaidd Enrico Fermi a drafododd y cwestiwn yn 1950.  Weithiau cyfeirir at y paradocs fel  “Y Tawelwch Mawr".

Mae lluoedd o  ddamcaniaethau wedi’u cynnig i esbonio’r paradocs.  Efallai ein bod ni ar ein pennau’n hunain yn y Bydysawd? Efallai bod estroniaid yma’n barod ond nad ydynt yn gadael i ni wybod? Efallai nad oes gan estroniaid ddiddordeb ynom? Efallai bod estroniaid yn bodoli ond maen nhw’n rhy bell i ffwrdd? Bydd yr Athro David Skibinski’n adolygu’r damcaniaethau hyn ac yn gwahodd sylwadau ar ba rai sy’n ymddangos y mwyaf credadwy.