Cân bêl-droed Clwb Pêl-droed Abertawe o 1913 yn cael ei hailddarganfod yn y llyfrgell

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

“It’s in! We grin! We make an awful din!” Mae cân a ysgrifennwyd ym 1913 i gefnogwyr pêl-droed Abertawe eu canu ar y teras wedi’i hailddarganfod yn Llyfrgell Abertawe fel rhan o brosiect ymchwil Cronfa Dreftadaeth y Loteri i ddathlu canfed pen-blwydd y clwb eleni. Dyma’r gân bêl-droed gyntaf a chofnodwyd sy’n perthyn i glwb Abertawe.

”Mae geiriau’r gân, o’r enw “Cân Ryfela’r Swans,  yn ymddangos mewn rhifyn o’r cylchgrawn “World of Sport”, a gyhoeddwyd yn Abertawe ym mis Chwefror 1913. Cafodd y gân ei darganfod gan Gwilym Games, llyfrgellydd astudiaethau lleol yn Llyfrgell Ganolog Abertawe, wedi iddo gael gwybod amdani gan Dr Martin Johnes, yr hanesydd chwaraeon o Brifysgol Abertawe.

Gwrandewch ar yr alaw - a chyfweliad gyda Phil Bethell o Brifysgol Abertawe - ar BBC Radio Wales

Darllenwch erthgyl BBC Ar-lein yma, gyda llun o'r cylchgrawn

Mae Phil Bethell yn rhan o’r prosiect Swans 100, sydd wedi’i leoli ym Mhrifysgol Abertawe. Meddai:
 
“Mae’r alaw yn cyfateb ag alaw’r gân neuadd gerddoriaeth boblogaidd, “Here Comes the Chocolate Major”.  Dydyn ni ddim yn gwybod os cafodd ei chanu o gwbl gan gefnogwyr ar y pryd ond rydym yn eithaf sicr mai hi yw’r gân gynharaf a ysgrifennwyd yn arbennig ar gyfer Tref Abertawe.   

Wrth ddarllen y geiriau, mae’n anodd dychmygu y byddai’r gân yn boblogaidd iawn heddiw! Mae’n amlwg bod y geiriau’n perthyn i’w cyfnod. Mae’r syniad o Gân Ryfela i’w weld braidd yn ymosodol, ac nid yw ysgogi cefnogwyr sy’n teithio i greu stwr ar y trên yn ymddygiad y byddem yn ei annog heddiw!

Y syniad yn syml oedd cael cân ar gyfer y tîm. Mae gan rhai prifysgolion yn yr Unol Daleithiau ganeuon ar gyfer eu timoedd chwaraeon y maent yn eu galw’n Ganeuon Ymladd o hyd. Mae’n bosib bod y syniad yn y wlad hon yn tarddu o’r ysgolion preifat – efallai dyma pam methodd y gân â chipio dychymyg y gymdeithas bêl-droed yn Abertawe!”

Mae Gwilym Games o Lyfrgell Abertawe, a ddaeth o hyd i’r gân, wedi adnabod y chwaraewyr a grybwyllir ynddi:

“Mae’r gân yn enwi sêr Abertawe o’r cyfnod. Yn eu plith y mae Capten cyntaf erioed Abertawe, Jack “Nick” Nicholas; yr amddiffynnwr canol o’r Alban, “Jock” Hamilton; John Coleman, y blaenwr a sgoriodd dim ond ail hat-trick y Swans erioed yn erbyn Luton ym mis Chwefror 1913; a Jimmy “Swarby” Swarbrick, yr asgellwr chwith chwimwth.

“Bally” yw Billy Ball, blaenwr Abertawe a oedd yn enwog am ei goliau di-rif ac a ddathlwyd drwy’r gân deras gynnar “Give it to Bally!” Fe oedd y dyn a sgoriodd gôl gyntaf Abertawe yn y Gynghrair, yng ngêm gyntaf Abertawe yn y Gynghrair ym mis Medi 1912, yn erbyn Caerdydd.

"Swans’" War Song    (Alaw – “The Chocolate Major”)

Look out here comes a crowd of jolly fellows all looking gay
Bent on a visit to the football field to watch two teams play
Which side they favour you will quickly know when both lots turn out,
For when " Nick " or Hamilton lead their boys upon the field
You'll hear them loudly shout—

Chorus:
We are the Swans' supporters, we are the village boys,
When our team is playing, hear us all hurrahing,
Shouting, Coleman, now then, SHOOT for goal, man,
Now, Bally, pass it to Swarby, Jimmy don't shoot too far;
IT'S IN ! (ha! ha!) we grin (ha! ha!) we make an
awful din as we all shout hurrah!

If we should travel by excursion when our boys play away,
Our antics create much diversion, for you'll hear people say :
Who are those noisy lot of bounders who command all the train?
The word goes round that they don't know who we are,
Then we all sing this refrain......”