Carreg Filltir Bwysig Bloodhound

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd system roced y cerbyd enwog Bloodhound yn cael ei phrofi am y tro cyntaf wythnos nesaf a bydd cynrychiolwyr o Brifysgol Abertawe yn bresennol i wylio’r cyfan.

Fel un o noddwyr y cynllun, mae Coleg Peirianneg Prifysgol Abertawe wedi’u gwahodd i’r digwyddiad ddydd Mercher 3 Hydref ym maes awyr Newquay, Cernyw, un o’r ychydig lefydd ym Mhrydain sy’n addas i gynnal y prawf.

Bydd y peiranwyr yn profi’r system roced am y tro cyntaf gan gynnwys injan Cosworth CA2010 F1, tanc Perocsid Uchel, blwch gêr, meddalwedd a roced hybrid unigryw.

Bloodhound SSC: One Year On

Mae ymchwilwyr o Goleg Peirianneg Prifysgol Abertawe wedi cyfrannu at ddyluniad aerodynameg Bloodhound, ac roedd y cerbyd uwch sonig yn atyniad arbennig o boblogaidd ar stondin y Brifysgol yn Eisteddfod yr Urdd eleni.

Bydd y cerbyd yn gobeithio gosod record byd ar gyfer cyflymder tir a chyrraedd tua 850 milltir yr awr yn 2013 cyn torri’r record a chyrraedd 1,000 milltir yr awr yn 2014 yn Ne Affrica.

Bydd y car yn mynd pum gwaith yn fwy cyflym na char Fformwla Un ac yn cael ei bweru gan roced hybrid Falcon a motor Eurojet EJ200. Mae’n 12.8 metr o hyd ac yn pwyso 7.5 tunnell fetrig.

Mae ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe wedi treulio rhan helaeth o’r ddwy flynedd ddiwethaf yn teithio o amgylch ysgolion Cymru yn cynnal gweithdai wedi’u seilio ar gynllun Bloodhound er mwyn annog mwy o blant a phobl ifanc i astudio pynciau STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg).

Meddai Dr Ben Evans, Darlithydd yng Ngholeg Peirianneg Prifysgol Abertawe ac aelod o dîm dylunio Bloodhound SSC: ‘‘Mae wedi bod yn fraint cael bod yn rhan o brosiect mor eiconig a bydd yn braf gweld datblygiad diweddaraf y cynllun wythnos nesaf. Bydd heb os yn garreg filltir bwysig yn hanes y cerbyd ac rwy’n mawr obeithio y bydd yn dangos i bobl pa mor gyffrous y gall peirianneg fod.’’

Diolch i BLOODHOUND SSC am y llun.