Coffáu'r Ffisegwr Nodedig o Abertawe, yr Athro David Olive

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Roedd yr Athro David Olive CBE FRS FLSW, a fu farw yng Nghaergrawnt yn 75 oed, yn un o ffisegwyr damcaniaethol rhagorol ei oes.

David Olive

Roedd gyrfa academaidd David yn cynnwys cyfnodau ym Mhrifysgol Caergrawnt, CERN, Coleg Imperial a Phrifysgol Abertawe, lle gydag Ian Halliday, sefydlodd y grŵp ffiseg ronynnol ym 1992.

Gwnaeth David gyfraniadau arloesol i theori matrics-S, llinynnau uwch, damcaniaethau medryddu a ffiseg fathemategol ac fe'i gwobrwywyd â’r Fedal Dirac gan y Ganolfan Ryngwladol ar gyfer Ffiseg Ddamcaniaethol yn Trieste ym 1997, gyda'i gydweithiwr ers tro Peter Goddard.

Roedd David yn Gymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol ac yn Gymrawd Sefydlu o Gymdeithas Ddysgedig Cymru.