Cronfa er Cof am Gymro i’r Carn

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd Prifysgol Abertawe yn dathlu cyfraniad unigryw Hywel Teifi Edwards i ddiwylliant Cymru brynhawn Gwener, 10 Awst 2012, ar ei stondin ar faes Eisteddfod Genedlaethol Cymru ym Mro Morgannwg.

Cynhelir derbyniad arbennig i lansio cronfa goffa er cof amdano am 12.30yp yng nghwmni gwraig Hywel Teifi, Aerona Edwards, a’u mab, y darlledwr a chymrawd er anrhydedd o Brifysgol Abertawe, Huw Edwards.

Bydd yr Eisteddfod yn fan priodol i lansio’r gronfa gan fod Hywel Teifi yn awdurdod ar hanes yr Eisteddfod Genedlaethol, yn frwd ei gefnogaeth i'r ŵyl ac yn aelod o Lys yr Eisteddfod a Gorsedd y Beirdd am flynyddoedd lawer.

Prif amcan sefydlu'r gronfa yw creu ysgoloriaeth PhD a fydd yn cael ei chynnig i unigolion disglair sy'n dymuno astudio yn un o'r meysydd ymchwil canlynol a fu o ddiddordeb ysol i Hywel Teifi, sef llenyddiaeth Gymraeg y bedwaredd ganrif ar bymtheg, byd y glöwr, hanes yr Eisteddfod Genedlaethol, yr iaith Gymraeg, y pentref a'r gymuned, gwleidyddiaeth Cymru, neu chwaraeon, y cyfryngau a'r ddrama yng Nghymru.

Ynghyd â chyllido ysgoloriaeth, y bwriad hefyd yw sicrhau cofeb barhaol i Hywel Teifi a fydd yn cael ei lleoli mewn man amlwg yn Academi Hywel Teifi, sefydliad a grëwyd gan Brifysgol Abertawe yn 2010 er cof am gyn-Athro Cymraeg y Brifysgol.

Mae Prifysgol Abertawe hefyd yn noddi Darlith Goffa Hywel Teifi Edwards a fydd yn cael ei thraddodi eleni gan Yr Athro Gareth Williams ar y pwnc ‘Cythraul y Canu yn Oes Aur y Corau Mawr’. Bydd yn cael ei chynnal ddydd Iau 9 Awst 2012 yn y Babell Lên am 11yb a Dr Gwenno Ffrancon fydd yn cadeirio.

Meddai Dr Gwenno Ffrancon, Cyfarwyddwr Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe: ‘‘Mae’n braf iawn cael y cyfle eto eleni yn yr Eisteddfod i sicrhau bod y cof am fywyd a gwaith Hywel Teifi yn parhau yn fyw. Mae Prifysgol Abertawe trwy waith Academi Hywel Teifi yn awyddus i sicrhau bod y meysydd ymchwil a fu’n rhai mor ffrwythlon i Hywel yn parhau i gael eu hymchwilio gan genedlaethau newydd o academyddion. Bydd sefydlu cronfa goffa ac ysgoloriaeth PhD yn ei enw yn fodd o gynorthwyo gyda’r gwaith o wireddu’r nod hwnnw.’’

Ychwanegodd Huw Edwards: ‘‘Rydym fel teulu yn falch iawn o’r datblygiad diweddaraf hwn gan Brifysgol Abertawe sy’n adeiladu ar waith a chyfraniad fy nhad ac sy’n goffa teilwng iddo. Gobeithiwn y bydd cefnogaeth gref i’r gronfa ac y daw cyfleoedd newydd i ysgolheigion y dyfodol yn sgîl ei sefydlu.’’

Dilynwch ni ar Twitter: http://twitter.com/#!/Prif_Abertawe  

Dewch o hyd i ni ar Facebook: http://www.facebook.com/#!/prifysgol.abertawe