Cydweithio i lwyddo - Y Gweilch a Phrifysgol Abertawe'n cytuno perthynas gydweithio

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae'r Gweilch a Phrifysgol Abertawe wedi cyhoeddi manylion partneriaeth newydd. Byddant yn rhannu arbenigedd, yn cryfhau eu cysylltiadau rhyngwladol, ac yn hyrwyddo Abertawe ar draws y byd yn brifddinas Cymru o ran chwaraeon.

Bydd y Brifysgol yn gallu cynnig cyfleoedd addysg uwch wedi'u haddasu'n benodol at anghenion chwaraewyr y Gweilch. Hefyd, bydd tîm Datblygu Cymunedol y Gweilch yn ymwneud mwy â'r ddarpariaeth rygbi yn y Brifysgol, gan sefydlu gwell rhaglen i ddatblygu hyfforddwyr.

Dywedodd yr Athro Noel Thompson, Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Abertawe,

"Mae'r cytundeb hwn yn ychwanegu'n sylweddol at ddarpariaeth chwaraeon y Brifysgol.  Mae'n rhoi ein cysylltiad â'r Gweilch ar seiliau cadarn iawn, gan sicrhau ein bod yn cydweithio er mwyn hyrwyddo rygbi, chwaraeon, a'r rhanbarth.

"Ym Mhrifysgol Abertawe rydym o ddifrif am lwyddiant ym maes chwaraeon. Rydym eisoes wedi buddsoddi £20miliwn yn ein Pentref Chwaraeon. Rydym ni'n bartneriaid i Ddinas a Sir Abertawe i gefnogi Pwll Cenedlaethol Cymru, ac, mewn partneriaeth â Bay Leisure, rydym yn rhedeg 360, y Ganolfan Chwaraeon Dŵr newydd ger San Helen.

"Rydym am allu cynnig profiad chwaraeon neilltuol i'n myfyrwyr. Bydd y cytundeb hwn yn ein helpu i gyflawni hynny, a gobeithio y bydd yn arwain at gyfleoedd eraill am gydweithredu rhwng y Brifysgol a'r Gweilch."

Dywedodd Andrew Hore, Prif Swyddog Gweithredol y Gweilch:

"Mae hyn yn newyddion hynod o gyffrous i'r Gweilch ac i Brifysgol Abertawe. Mae'r ddau sefydliad yn flaengar, yn arloesol, ar flaen y gad yn ein meysydd ein hunain, ac yn falch o gynrychioli rhanbarth De-orllewin Cymru.

"Mae'r cyfnod hwn yn gyfnod gwych am chwaraeon yn Abertawe, a gallwn ddweud yn gwbl ddi-flewyn-ar-dafod bod Stadiwm Liberty yn gartref i dîm pêl-droed gorau Cymru, a rhanbarth rygbi gorau Cymru. Mae'r cyfleoedd a ddaw yn sgil hyn yn ddi-ri, ac mae gyda ni gyfle i sefydlu Abertawe yn ddinas rhagoriaeth chwaraeon. Mae digon o ddinasoedd chwaraeon gwych ledled y byd sydd â mwy nag un tîm elitaidd, a gall Abertawe fod yno gyda nhw."