Cyfres Darlithoedd Cymunedol AABO 2012/2013

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae'r gyfres o ddarlithoedd cymunedol rhad ac am ddim a drefnir gan yr Adran Addysg Barhaus Oedolion (AABO) ym Mhrifysgol Abertawe yn mynd yn ei blaen gyda darlith am yr arlunydd o Gymraes, Vera Bassett.

Siaradwr: Don Treharne

Teitl y Ddarlith: “Vera Bassett: 1912-1997”

Dyddiad:  Dydd Iau 25 Hydref 2012

Amser: 7pm - 8.45pm

Lleoliad: Canolfan Y Bont, 28, Heol Dulais, Pontarddulais Abertawe SA4 8PA

Mynediad: Mae mynediad am ddim.

Crynodeb: Mae'r ddarlith yn trafod bywyd a gwaith Vera Bassett, yr Arlunydd 'Prin a Hoffus', ac yn cynnwys arddangosfa o'i gwaith i ddathlu canmlwyddiant ei genedigaeth yn Fforest, Pontarddulais.

I archebu lle neu am ragor o wybodaeth, galwch 01792 602211 neu anfonwch e-bost at: adult.education@abertawe.ac.uk (D.S. ni fydd y lleoliad ei hun yn derbyn archebion). Ewch i www.swansea.ac.uk/dace.