Cyn-fyfyriwr Prifysgol Abertawe yn ennill gwobr Miliwn o Ddoleri

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Yr Athro Lyn Evans, cyn Arweinydd Prosiect yn CERN a raddiodd â gradd mewn Ffiseg o Brifysgol Abertawe, yw un o enillwyr Gwobrau Ffiseg Sylfaenol Arbennig eleni, sy'n cydnabod cynnydd trawsffurfiol ym maes Ffiseg. Daw'r wobr â thair miliwn o ddoleri ac fe'i rhannir gan wyddonwyr sy'n gweithio yn y Peiriant Gwrthdaro Hadron Mawr yn CERN yn Genefa, y Swistir.

Mae'r Wobr Ffiseg Sylfaenol wedi'i hariannu gan Sefydliad Milner a sefydlwyd gan Yuri Milner, entrepreneur a chyfalafwr menter o Rwsia a oedd yn fyfyriwr ffiseg ronynnol ym Mhrifysgol Talaith Moscow. Ar ôl sylweddoli nad ffiseg oedd ei faes, symudodd i UDA ym 1990 a daeth yn fancwr buddsoddi llwyddiannus: ar hun o bryd, amcangyfrifir bod ei werth net yn un biliwn o ddoleri Americanaidd.

Ffurfiwyd y Sefydliad Gwobr Ffiseg Sylfaenol y llynedd er mwyn cynyddu ein gwybodaeth o'r Bydysawd ar y lefel ddyfnach un drwy ddyfarnu gwobrau blynyddol ar gyfer darganfyddiadau gwyddonol newydd, yn ogystal â chyfathrebu cyffro ffiseg sylfaenol i'r cyhoedd. Mae'r enillwyr cyntaf yn cynnwys damcaniaethwyr llinynnau enwog, megis Edward Witten a Nathan Seiberg (y naill yn Princeton), a chosmolegwyr megis Alan Guth (MIT) ac Andrei Linde (Stanford), a enillodd tair miliwn o ddoleri yr un.

Eleni, dyfarnwyd dwy wobr arbennig: un i Stephen Hawking, am ei waith arloesol ar dyllau du a mecaneg gwantwm, ac un i arweinwyr prosiect y Peiriant Gwrthdaro Hadron Mawr, am eu rôl flaenllaw yn yr ymdrech wyddonol a arweiniodd at ddarganfod y gronyn Higsaidd yn y Peiriant Gwrthdaro Hadron Mawr yn CERN ym mis Gorffennaf yr haf hwn.

Mae'r grŵp hwn yn cynnwys Lyn Evans, a oedd yn gyfrifol am adeiladu’r Peiriant Gwrthdaro Hadron Mawr. Ar ôl ennill ei radd ddoethur yn Abertawe, symudodd i CERN ym 1969 a dechreuodd weithio ar adeiladu'r Peiriant Gwrthdaro Hadron Mawr ym 1994. Cynhaliwyd y gwrthdrawiadau gronynnau cyntaf ym mis Mawrth 2010 a heb os, yr uchafbwynt hyd yma oedd darganfod boson Higgs, a gyhoeddwyd y mis Gorffennaf hwn ac a ddathlwyd ym Mhrifysgol Abertawe gyda darlith gyweirnod gan yr Athro Peter Higgs mewn Cynhadledd ryngwladol fawr, un wythnos yn union ar ôl y cyhoeddiad yn CERN.

Prof Lyn Evans

Ar ôl clywed am y wobr, meddai'r Athro Lyn Evans, Cymrawd o Brifysgol Abertawe, wrth bapur newydd y Guardian: "Cefais alwad ffôn yn dweud fy mod i wedi ennill miliwn o ddoleri. Roeddwn i wedi fy syfrdanu. Y peth cyntaf yr ydych yn ei wneud yw eistedd i lawr. Mae hyn yn wych i ni, ac mae'n mynd i'r afael â rhai o ddiffygion y wobr Nobel, na ellir ei dyfarnu i fwy na thri o bobl."

 

Derbyniodd timoedd Atlas a CMS $1m yr un. Heblaw prynu iPad newydd, nid yw Evans yn siŵr beth i wneud â'r arian. "Does dim angen llawer iawn o arian arnaf. Un peth na fyddaf yn ei wneud bydd gyrru o amgylch CERN mewn Ferrari. Byddai hynny'n beth wael o ran fy nelwedd," meddai.

"Roedd dewis enillwyr eleni o gronfa mor anhygoel o enwebiadau'n dasg anodd iawn," meddai Nima Arkani-Hamed, aelod o'r Panel Ddethol. "Mae'r ffisegwyr sydd wedi'u dewis wedi gwneud gwaith trawsffurfiol yn amgylchynu ystod eang o feysydd mewn ffiseg sylfaenol."

"Mae'n anrhydedd fawr i lwyddiant y Peiriant Gwrthdaro Hadron Mawr gael ei gydnabod yn y modd hwn," meddai Prif Gyfarwyddwr CERN Rolf Heuer, "mae'r wobr hon yn cydnabod gwaith pawb sydd wedi cyfrannu at y prosiect dros nifer o flynyddoedd. Mae'r Wobr Ffiseg Sylfaenol yn tanlinellu gwerth ffiseg sylfaenol i gymdeithas, ac rydw i wrth fy modd bod y Sefydliad wedi dewis cynnal ei seremoni wobrwyo gyntaf yn CERN."

"Rydw i wrth fy modd gyda phenderfyniad y Pwyllgor Dethol," meddai Yuri Milner. "Rydw i'n gobeithio y bydd y gwobrau yn dod â chydnabyddiaeth bellach i rai o feddyliau anhygoel y byd a'r llwyddiannau mawr y maen nhw wedi'u cynhyrchu."

Caiff y Gwobrau eu rhoi yn CERN ym mis Mawrth 2013.