Cynhadledd Arloesi Mewn Gofal Iechyd

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Ar y diwrnod y cychwynnodd Llywodraeth Cymru 'ddadl iechyd mawr' ehangach drwy ryddhau ei Phapur Gwyrdd Iechyd Cyhoeddus, bu ymarferwyr o Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg a Bwrdd Iechyd Hywel Dda ac academyddion o Brifysgol Abertawe yn cwrdd i drafod arloesi mewn gofal iechyd.

Bu Prifysgol Abertawe yn cynnal ail Gynhadledd Flynyddol Canolfan Cymru ar gyfer Arloesi mewn Ymarfer (29/30 Tachwedd) Trefnwyd y gynhadledd gan yr Adran Nyrsio yng Ngholeg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd ar y cyd â Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg a Bwrdd Iechyd Hywel Dda.

Themâu arbennig y gynhadledd oedd dementia a gofal lliniarol, a chafwyd cyflwyniadau rhagorol yn y ddau faes yn amlygu sut mae ymarferwyr yn derbyn y cyfrifoldeb am arloesi yn eu hymarfer eu hunain, ac yn gyrru gwasanaethau a gofal yn eu blaen ymhellach. Y neges fynych oedd bod rhaid i'r claf fod yn ganolbwynt y gofal, a bod arloesi'n hanfodol i sicrhau bod hynny'n digwydd. 

Yn ei haraith i'r gynhadledd, bu'r Athro Jean White, Prif Swyddog Nyrsio Cymru, yn archwilio heriau iechyd cyhoeddus ac effaith newidiadau demograffig, yn enwedig effaith poblogaeth sy'n heneiddio, ar bolisi iechyd a darparu gwasanaethau yng Nghymru. Yn ei haraith, bu'n cyfeirio’n arbennig  at effaith cynnydd mewn poblogaeth 85 mlwydd oed ac yn hŷn ar wasanaethau, wrth i Gymru arwain y ffordd yn y DU o ran niferoedd pobl hen iawn. Bu Jean hefyd yn galw ar gynrychiolwyr i gymryd rhan yn y ddadl ynghylch beth y dylai Cymru ei wneud nesaf o safbwynt gyrru’r agenda iechyd cyhoeddus ymlaen yng Nghymru, ac os y dylai deddfwriaeth gael rôl bwysicach yn hyn o beth.

Roedd siaradwyr eraill yn cynnwys:                                                                                            

Y Gwir Anrhydeddus Rhodri Morgan, Canghellor Phrifysgol Abertawe.

Lisa Marshall a Tom Alexander - Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn sôn am y Cynllun Pili Pala i Bobl sydd â Dementia (dydd Iau).

Julie Barnes ac Allan Barham yn sôn am Arloesi mewn Ymarfer yn yr Uned Gardiaidd, Treforys a Chyfranogiad Defnyddwyr Gwasanaeth Actif (dydd Iau).

Andrea Higgins, Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu, Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn sôn am Brofiadau Ysgoloriaeth Deithio Sylfaen Florence Nightingale o Wasanaethau Dementia ar draws India (dydd Gwener).

Bu'r gynhadledd hefyd yn cynnal cystadleuaeth ar gyfer poster gorau'r gynhadledd ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg ar gynhadledd orau ar gyfer Bwrdd Iechyd Hywel Dda. 

Am ragor o wybodaeth am y pynciau a drafodwyd yn y gynhadledd, cysylltwch â

Ruth Davies: Adran Nyrsio, Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd, Prifysgol Abertawe,

R.E.davies@abertawe.ac.uk

Louise Hughes: Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg,

Louise.Hughes3@wales.nhs.uk

Judith Bowen: Bwrdd Iechyd Hywel Dda,

Judith.Bowen@wales.nhs.uk