Cystadleuaeth ‘Ymchwil fel Celf’ 2012

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Penodwyd panel cyffrous i farnu cystadleuaeth flynyddol Prifysgol Abertawe, Ymchwil fel Celf.

Mae'r gystadleuaeth yn ei thrydedd flwyddyn bellach, ac mae Fforwm Ymchwil Prifysgol Abertawe, ar y cyd â Phontio'r Bylchau, yn gwahodd ei hacademyddion i gyflwyno delwedd weledol o'u hymchwil ynghyd â disgrifiad byr, trawiadol, ac ysbrydol.

Mae'r gystadleuaeth yn rhoi'r manteision hyn i gyfranwyr: cyfle i hyrwyddo eu hymchwil drwy gysylltiadau prosiectau allanol, cyfle i'r gwaith gael ei farnu gan banel nodedig o arlunwyr, newyddiadurwyr, ymchwilwyr a ffotograffwyr, arddangosyn parhaol ar y campws, arddangosiad teithiol, ac mae ymgeision o’r ddwy flynedd diwethaf wedi’u dewis gan yr Is-ganghellor ar gyfer Cardiau Nadolig y Brifysgol.

Mae'r gystadleuaeth yn creu potensial i wneud ein hymchwil yn weladwy i bobl sydd: ar y bwrdd gweithredol sy'n eistedd uwch ben y cyfan o gyrff cyllido'r cynghorau ymchwil; yn gyfarwyddwr un o sefydliadau ymgysylltu cyhoeddus mwyaf mawreddog y DU; ac yn ddirprwy olygydd gwefan ymchwil sydd â 3 miliwn o ddefnyddwyr unigryw ar lein bob mis!!

Aelodau'r panel proffil uchel yw:

  • Yr Athro John Womersley – Bwrdd Gweithredol RCUK, Hyrwyddwr Ymgysylltu'r Cyhoedd ag Ymchwil RCUK, a Phrif Swyddog Gweithredol y Cyngor Cyfleusterau Gwyddoniaeth a Thechnoleg
  • Dr. Gail Cardew – Cyfarwyddydd Gwyddoniaeth ac Addysg y Sefydliad Brenhinol, Islywydd Euroscience, Panel Ymgynghorol Casgliad Wellcome, Coleg Adolygiadau Cymheiriaid y Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol
  • Flora Graham – Dirprwy olygydd NewScientist.com, mae hefyd wedi gweithio i'r BBC, CBC a CNET UK yn awdur/ darlledwr
  • Yr Athro Noel Thompson – Dirprwy Is-ganghellor Ymchwil Prifysgol Abertawe, Cymrawd y Gymdeithas Hanes Frenhinol

Yn ogystal â'r panel barnu ysbrydol hwn, cynhelir arddangosiad allanol o ddelweddau yr haf yma yn Theatr y Grand (16eg - 29ain Gorffennaf)