Darlith Gymunedol AABO: Charles Dickens – y dyn a ailddyfeisiodd y Nadolig

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd y ddarlith nesaf yng nghyfres darlithoedd cyhoeddus a drefnir gan yr Adran Addysg Barhaus Oedolion (AABO) ym Mhrifysgol Abertawe’n cael ei chynnal yr wythnos nesaf.

Siaradwr: Peter Richards gyda Claire Novelli

Teitl y ddarlith: Charles Dickens – the man who re-invented Christmas

Dyddiad: Dydd Llun 17 Rhagfyr 2012

Amser: 12.45 pm – 2.30 pm

Lleoliad: Stiwdio Depot, Theatr y Grand Abertawe, Stryd Singleton, Abertawe. SA1 3QJ

Mynediad: Mae mynediad am ddim ac mae croeso i bawb

Crynodeb o’r ddarlith: Bydd y ddarlith hon yn edrych ar fywyd a gwaith Charles Dickens yn ei ddeucanmlwyddiant ac yn arbennig ar ei nofel anhygoel A Christmas Carol lle y gwnaeth ailddyfeisio’r Nadolig ym Mhrydain mwy neu lai.

Cyswllt: I archebu lle neu am ragor o wybodaeth, ffoniwch 01792 602211 neu e-bostiwch: adult.education@abertawe.ac.uk (D.S. ni fydd lleoliad y ddarlith yn derbyn archebion). Ewch i www.swansea.ac.uk/dace.