Denu mwy i ddysgu Ieithoedd Modern

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd Prifysgol Abertawe yn gwneud ymdrech arbennig rhwng 12-13 Gorffennaf 2012 i ddenu mwy o bobl ifanc i ddysgu ieithoedd tramor trwy gyfrwng y Gymraeg.

Dengys ffigyrau diweddar bod llai o ddisgyblion Cymru nag erioed yn dewis astudio ieithoedd tramor ac y bydd economi Cymru o bosib yn cael ei niweidio o ganlyniad.

Bwriad Canolfan Ieithoedd cyfrwng Cymraeg Prifysgol Abertawe (CICC) gyda nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yw ceisio perswadio disgyblion bod sgiliau iaith yn holl bwysig a’u bod yn berthnasol i fywyd bob dydd.

Bydd disgyblion o bob cwr o Gymru yn heidio i’r Brifysgol am ddeuddydd i gymryd rhan mewn gweithdai megis cyfieithu proffesiynol ac ar y pryd, Almaeneg, Sbaeneg ac Arabeg i ddechreuwyr yn ogystal â sesiynau ymarfer Ffrangeg, Almaeneg a Sbaeneg llafar.

Ysgol Haf 3

Yn ychwanegol, bydd Llwybrau at Ieithoedd Cymru yn cynnal sesiwn ar fanteision astudio ieithoedd a bydd Addysg Cyfryngau Cymru yn cynnal gweithdy dadansoddi a golygu ffilm.

Meddai Dr Geraldine Lublin o Ganolfan Ieithoedd cyfrwng Cymraeg Prifysgol Abertawe: ‘‘Mae’r ffigyrau diweddar ynglyn â’r niferoedd sy’n dewis astudio ieithoedd tramor yn peri pryder felly rwy’n falch bod cymaint o ddisgyblion wedi dangos diddordeb a chofrestru ar y cwrs. Rwy’n gobeithio y byddant oll yn gweld budd o astudio ieithoedd tramor a sylweddoli y bydd y gallu i siarad sawl iaith o fantais yn y gweithle yn y dyfodol.’’