Diwrnod Ewrop 9fed Mai: Hedfan y Faner dros Ewrop

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd baner yr Undeb Ewropeaidd yn hedfan y tu allan i Abaty Singleton, Prifysgol Abertawe i nodi Diwrnod Ewrop ar ddydd Mercher 9fed Mai 2012, wrth i’r Brifysgol gynnal nifer o weithgareddau ac iddynt flas Ewropeaidd yn dangos sut y gall cymorth ariannol gan yr UE i adeiladu cysylltiadau addysgol, diwylliannol, masnachol a dinesig fod o fudd i fusnesau, cymunedau a’r amgylchedd.

Mae’r Brifysgol yn rhan o nifer o strategaethau amrywiol a ariennir gan Gronfeydd Strwythurol yr UE drwy Lywodraeth Cymru a, hyd yn hyn, mae wedi derbyn dros £73 miliwn o gronfeydd UE drwy Lywodraeth Cymru gan gynnwys dros £44 miliwn o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF) a £29 miliwn pellach o Gronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).

Mae pob un o’r rhaglenni strategol hyn yn darparu buddion sylweddol ar lefel leol a rhyngwladol; gyda phrosiectau ESF yn helpu i ddarparu’r sgiliau lefel uwch sydd eu hangen yn yr 21ain tra bod prosiectau ERDF yn cyfrannu at dwf economaidd a chreu cyfoeth.

I nodi Diwrnod Ewrop, bydd Adran Ymchwil ac Arloesi (DRI) y Brifysgol yn lansio Rhwydwaith Mentergarwch Ewrop EEN) ym Mhrifysgol Abertawe a fydd yn cryfhau cysylltiadau rhwng Cymru ac Ewrop a hefyd yn helpu busnesau bach lleol i fanteisio’n llawn ar y farchnad Ewropeaidd. Bydd swydd Swyddog Datblygu Busnes penodol yn cael ei ariannu drwy’r prosiect hwn i helpu busnesau i ddatblygu mewn marchnadoedd newydd, i ddod o hyd i neu drwyddedu technolegau newydd ac i gael mynediad at gyllid UE ac ariannu UE.

Bydd staff Rhwydwaith Mentergarwch Ewrop Cymru (EENW) hefyd yn helpu drwy weithredu gwasanaeth cyfeirio, a fydd yn tynnu sylw at gynlluniau sydd ar waith yn y rhanbarth neu yn rhyngwladol, ac maen nhw’n gobeithio cynyddu’r nifer o gyfeiriadau i’r rhwydwaith gan fusnesau a darparwyr cymorth arloesi eraill.

Fel rhan o’r prosiect hwn, bydd arbenigwyr mewn arloesi, technoleg a masnacheiddio yn y Brifysgol yn gweithio gyda BBaCh a sefydliadau eraill perthnasol drwy gynnal adolygiadau technoleg yn ne Cymru ac yng Nghanolbarth Cymru i greu cynigion am bartneriaethau o ansawdd uchel, datganiadau o ddiddordeb, cytundebau partneriaethau a hanesion o lwyddiant.  

Gall busnesau bach dod o hyd i ragor o wybodaeth drwy ffonio 01792 606060 neu e-bostio researchandinnovation@abertawe.ac.uk

Bydd y Brifysgol hefyd yn arddangos y rhaglen Erasmus freintiedig sy’n annog symudedd a chyfnewid ymhlith myfyrwyr a staff addysgu gyda’i harwyddair ‘Dod â myfyrwyr i Ewrop, Dod ag Ewrop i bob myfyriwr.’

Mae’r rhaglen Erasmus, a sefydlwyd ym 1987 ac a noddir gan yr UE, yn gweithredu mewn 31 o wledydd ac mae’r gwaith o gyfnewid a chydweithio diwylliannol wedi arwain at fuddion cymunedol, cymdeithasol, amrywiaeth ac amgylcheddol; gan atgyfnerthu diwylliant cyfoethog ac amrywiol campws y Brifysgol.  

Mae’r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod oddeutu 130 o fyfyrwyr Prifysgol Abertawe ac oddeutu 25 aelod o staff yn elwa bob blwyddyn, o safbwynt personol a phroffesiynol, drwy gymryd rhan mewn rhaglen a ddisgrifir yn eang fel ‘cyfle unwaith mewn bywyd’.

Am ragor o fanylion ac i edrych ar flogiau myfyrwyr am y cynllun, cysylltwch â’r Swyddfa Datblygu Rhyngwladol  http://www.swan.ac.uk/international/opportunities/

Bydd bwydlen Ewropeaidd hefyd ar gael yng Nghaffi Fusion y Brifysgol ar y dydd a fydd yn cynnwys paella Sbaeneg, moussaka Groegaidd a schnitzel cyw iâr Almaeneg.

Meddai’r Athro Richard B Davies, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe: “Fel sefydliad a arweinir gan ymchwil gyda strategaeth uchelgeisiol ar gyfer twf, mae Prifysgol Abertawe’n croesawu’r cyllid sylweddol a dderbynnir gan yr UE drwy Lywodraeth Cymru ac yn falch o’r llwyddiant a brofwyd o brosiectau cydweithredol drwy greu swyddi o ansawdd uchel a swyddi sgiliau uchel ac, yr un mor bwysig hefyd, o ddenu buddsoddiad pellach  i ranbarth de-orllewin Cymru i helpu gwthio’r economi wybodaeth yn ei blaen.”