Dysgu am Hanes yr Henfyd mewn ymweliadau ar thema'r Gemau Olympaidd

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd disgyblion o Ysgol Gyfun Ystalyfera yn cymryd rhan mewn gweithdy ‘Blas ar Fywyd Prifysgol’ ar thema amserol y gemau Olympaidd ym Mhrifysgol Abertawe ddydd Gwener 1 Mehefin 2012.

Partneriaeth Ymestyn yn Ehangach De-orllewin Cymru ar y cyd ag Adran Hanes a'r Clasuron Prifysgol Abertawe sydd wedi trefnu’r gweithdy.

Gyda gemau Olympaidd Llundain ar y gorwel, bydd disgyblion Ystalyfera yn dysgu am hanes y Gemau Olympaidd, gan olrhain eu gwreiddiau'n ôl i Wlad Roeg Hynafol yn ogystal ag ystyried lle'r Gemau yn y gymdeithas gyfoes.

Byddant yn cael eu rhannu i dimoedd gwahanol ac yn cymryd rhan mewn sawl gweithgaredd ymarferol, gan gynnwys gwneud masgotiaid a chymryd rhan mewn seremoni i gloi gweithgarwch y diwrnod.

Bydd llysgenhadon yr Adran ar gael trwy'r dydd hefyd, i siarad â'r disgyblion am astudio yn y Brifysgol, bywyd myfyriwr, a'r graddau sydd ar gael ym meysydd astudio'r Dyniaethau.

Meddai Mai Musié, Swyddog Datblygu Prosiectau Partneriaeth Ymestyn yn Ehangach De-orllewin Cymru: “Wrth i'r paratoi ar gyfer Gemau Llundain ddwysáu, mae hyn yn gyfle gwych i ddisgyblion fod yn rhan o ysbryd y Gemau trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae hi’n braf gweld bod cymaint o ddisgyblion Ysgol Gyfun Ystalyfera yn awyddus i fod yn rhan o’r diwrnod ac rwy’n mawr obeithio y bydd pawb yn cael diwrnod wrth eu bodd.’’