Elyrch100: Sioe Deithiol Prosiect Canmlwyddiant Dinas Abertawe Dydd Sul Ebrill 1

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Dewch i’n helpu ni i ddathlu Canmlwyddiant Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe yn Llyfrgell Ganolog Abertawe, Dydd Sul Ebrill 1af 11.00 – 3.00.

Mae prosiect Elyrch100 yn fenter ar y cyd rhwng Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Dinas Abertawe a Phrifysgol Abertawe. Y nod yw creu archif ar-lein lle bydd profiadau cefnogwyr yr Elyrch dros ganrif gyntaf bodolaeth y clwb yn cael eu recordio a’u cadw.

Y nod yw creu’r hyn sy weithiau’n cael ei chyfeirio ati fel Amgueddfa Rhithiol, a’r  syniad yw cofnodi storiau ac atgofion cefnogwyr am eu bywydau fel dilynwyr yr Elyrch, a’r hyn y mae’r clwb yn ei olygu iddyn nhw.

Rydym yn cyflawni hyn mewn nifer o ffyrdd: cael cefnogwyr i gwblhau ein harolwg, ar-lein neu ar bapur; cyfweld â chefnogwyr wyneb-yn-wyneb; tynnu lluniau a sganio dogfennau, rhaglenni, tocynnau, ffansîns, ffotograffau, unrhyw beth y gallwn gopio’n ddigidol; tynnu lluniau o bethau cofiadwy eraill megis crysau, mygiau a bathodynnau; ymchwilio i'r archifau papur newydd lleol ar gyfer adroddiadau ar gemau ac eitemau newyddion eraill; cael pobl i ysgrifennu eu storïau i lawr, neu gyfweld â chefnogwyr eraill a chyn-chwaraewyr ar ein rhan.

Mae llwyddiant yr archif yn dibynnu ar ymdrechion y cefnogwyr – fe fydd yn cofnodi eu hanes a'u cariad tuag at y clwb drwy holl hynt a helynt y ganrif ddiwethaf.

Rydym am estyn allan at fwy o bobl, felly ar ddydd Sul Ebrill 1af rydym yn cynnal Diwrnod Agored Sioe Deithiol yn Llyfrgell Ganolog Abertawe. Dyma’ch cyfle i ddod draw, canfod mwy o wybodaeth am y prosiect, ac i ddod ag unrhyw eitemau o ddiddordeb atom ni i’w cofnodi. Bydd yn gyfle i gyfrannu’ch stori i'r archif a bod yn rhan o hanes yr Elyrch!

Bydd staff y prosiect wrth law i siarad â chi, i sganio neu dynnu llun eich pethau cofiadwy, i wrando ac i gofnodi’ch straeon. Byddwch yn gallu cwblhau'r arolwg os nad ydych wedi gwneud hynny'n barod, a rhannu’ch profiadau fel cefnogwr Dinas Abertawe gyda ni. Dewch draw dim ond er mwyn cael rhyw syniad o sut y gallech chi ychwanegu at yr archif, neu hyd yn oed i wirfoddoli i helpu gyda'r gwaith parhaus. Dathlwch eich tîm a'i gampau gwych! Byddwch yn rhan o hanes eich clwb a dewch  draw  - mae croeso i bawb o bob oed.

Cefnogir y prosiect gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri

Lleoliad: Ystafell Ddarganfod Llyfrgell Ganolog Abertawe, ar y llawr 1af  yn y Llyfrgell Astudiaethau Lleol. Mae’r Llyfrgell o fewn y Ganolfan Ddinesig ar Ffordd Ystumllwynarth.

Oriau agor: 11.00 am - 3.00 pm.

Mae mynediad i’r digwyddiad yn rhad ac am ddim.

Cysylltwch â: Philip Bethell ar swans100@swansea.ac.uk , neu ffoniwch 01792 606535.

Manylion y wefan: www.swans100.com