Ethol Cymrodorion newydd y Gymdeithas Ddysgedig o Brifysgol Abertawe

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae deuddeg o academyddion o Brifysgol Abertawe wedi’u cydnabod am eu rhagoriaeth a’u llwyddiant drwy eu hethol yn Gymrodorion o Gymdeithas Ddysgedig Cymru.

Mae Etholiad Cymrodorion newydd yn 2012 wedi cryfhau’r Gymdeithas yn sylweddol, gan ychwanegu saith deg a thri o Gymrodorion i’w 177 o aelodau presennol, pob un ohonynt yn ffigyrau blaenllaw yn eu disgyblaethau academaidd priodol. Mae’r Gymdeithas a lansiwyd ym mis Mai 2010 yn ceisio sefydlu ei hun fel cynrychiolydd cydnabyddedig o’r byd dysgu Cymreig yn rhyngwladol a hefyd fel ffynhonnell o sylwadau ysgolheigaidd a chritigol awdurdodol a chyngor ar faterion polisi sy’n effeithio ar Gymru. Tan hynny nid oedd gan Gymru academi genedlaethol, yn annhebyg i’r Alban, sydd wedi buddio o Academi Frenhinol Caeredin ers 1783.

Meddai Syr John Cadagon FRS, Llywydd y Gymdeithas:

Rydym wedi ethol carfan gref arall o Gymrodorion newydd, i ychwanegu at y rhestr bresennol o Gymrodorion Sefydlu a Chymrodorion ardderchog. Dros y blynyddoedd nesaf, bydd ein Cymrodoriaeth yn parhau i dyfu drwy etholiadau a fernir gan adolygiadau cymheiriaid. Bydd cael eich ethol yn parhau i fod yn darged i’n hysgolheigion ifainc.”

Meddai’r Athro John Tucker, Ysgrifennydd Cyffredinol y Gymdeithas: “Mae academyddion Prifysgol Abertawe wedi chwarae rôl flaenllaw yn sefydlu Cymdeithas Ddysgedig Cymru. Mae’r Athro Wyn Thomas, FBA yn Is-lywydd ar gyfer y Celfyddydau, y Dyniaethau a Gwyddor Gymdeithasol, ac mae Syr Roger Jones, cadeirydd ein Cyngor Prifysgol, yn Drysorydd. Mae rhyw 33 o ysgolheigion, gwyddonwyr, a pheirianyddion ym Mhrifysgol Abertawe yn Gymrodorion, ac mae llawer mwy o Gymrodorion wedi dal swyddi gyda ni yn y gorffennol, neu wedi’u derbyn eu haddysg yma. Mae gen i ddisgwyliadau uchel y bydd cyfraniad personol Cymrodorion Abertawe yn cyfrannu at bweru cyraeddiadau deallusol ac enw da academaidd Cymru.”

Cymrodorion Prifysgol Abertawe a etholwyd yn 2012

Yr Athro David Blackaby FLSW

Athro mewn Economeg, Prifysgol Abertawe

Yr Athro Javier Bonet FLSW

Athro mewn Peirianneg, Pennaeth y Coleg Peirianneg, Prifysgol Abertawe

Yr Athro (Anthony) Gareth Brenton FLSW

Athro mewn Sbectrometreg Mas, Cyfarwyddwr y Sefydliad Sbectrometreg Mas, Coleg Meddygaeth, Prifysgol Abertawe

Yr Athro y Fonesig June Clark DBE FRCN FAAN FLSW

Athro Emeritws, Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd, Prifysgol Abertawe

Yr Athro Kevin (John) Flynn FLSW

Athro mewn Bioleg y Môr a Phennaeth yr Adran Biowyddorau, Prifysgol Abertawe

Yr Athro Oubay Hassan MBE DSc(Eng) FICE FLSW

Pennaeth y Ganolfan Peirianneg Sifil a Chyfrifiadurol, Coleg Peirianneg, Prifysgol Abertawe

Yr Athro (William) Jeremy Jones FRSC FLSW

Cyn Athro a Phennaeth yr Adran Gemeg, Prifysgol Cymru, Aberystwyth; Athro mewn Cemeg a Deon y Gyfadran Gwyddoniaeth, Prifysgol Cymru Abertawe

Yr Athro Roland (Wynne) Lewis DSc FREng FICE FLSW

Athro Emeritws, Coleg Peirianneg, Prifysgol Abertawe

Yr Athro Tavi Murray FLSW

Athro mewn Rhewlifeg, Ysgol yr Amgylchedd a Chymdeithas, Prifysgol Abertawe

Yr Athro Andrew Pelter DSc FRIC FLSW

Athro Emeritws mewn Cemeg Organig, Prifysgol Abertawe

Yr Athro Djordje Peric DSc FLSW

Y Ganolfan Peirianneg Sifil a Chyfrifiadurol, Coleg Peirianneg, Prifysgol Abertawe

Yr Athro Judith (Eleri) Phillips AcSS FLSW

Athro mewn Gerontoleg, a Chyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Abertawe.