Félicitations, felicidades, a llongyfarchiadau i ieithydd arobryn Abertawe Sophie

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Pan raddiodd Sophie Williams o Brifysgol Abertawe’r mis diwethaf gyda gradd BA dosbarth cyntaf ddwbl mewn Ffrangeg a Sbaeneg – gan ennill rhagoriaeth ar gyfer yr arholiadau llafar yn y naill iaith – ni oedd yn disgwyl rhagori ar y llwyddiant hwnnw.

Sophie Williams Ond mae’r talentog Sophie, sy’n 22 oed o Wychwood Close yn Langland, bellach wedi dysgu ei bod wedi ennill dim llai na phedair gwobr academaidd a wobrwywyd eleni am deilyngdod gan Goleg Celfyddydau a Dyniaethau’r Brifysgol.

Mae Sophie wedi ennill Gwobr Mary Williams mewn Ffrangeg, a ddyfarnwyd i’r myfyriwr â’r perfformiad gorau yn y flwyddyn olaf (£150); Gwobr Pol Diverres a ddyfarnwyd i’r myfyriwr â’r Ffrangeg o’r safon orau yn y flwyddyn olaf (£50); Gwobr Armel Diverres, a ddyfarnwyd i’r myfyriwr â’r Sbaeneg o’r safon orau yn y flwyddyn olaf (£50); a gwobr goffa Roy Lewis, a ddyfarnwyd am y gwaith mwyaf clodwiw ym maes llenyddiaeth Ffrangeg y bedwaredd ganrif ar bymtheg neu’r ugeinfed ganrif (£25).

A thra bod y cyn-ddisgybl o Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt a Choleg Abertawe’n hynod falch o’i llwyddiant, meddai bod ennill y pedair gwobr braidd yn syndod iddi.

Meddai Sophie: “Pan dderbyniais y llythyr gan y Brifysgol i ddweud wrthyf fy mod wedi ennill y gwobrau, roedd hi’n sioc. Roeddwn i wedi fy synnu fy mod wedi ennill y gwobrau Coleg hyn yn ogystal ag ennill fy ngradd, ond roeddwn i’n falch dros ben – mae’n braf cael eich cydnabod fel hyn.”

Meddai mam falch Sophie, a raddiodd o Brifysgol Abertawe ym 1976 â gradd anrhydedd dosbarth cyntaf mewn hanes: “Rydw i’n fam hynod o falch ac mae Sophie’n llawn haeddi eu gwobrau – mae ei thad a minnau wrth ein boddau ac roeddwn i’n llawn balchder wrth ei gwylio’n graddio ym mis Gorffennaf.”

Meddai’r Athro Andrew Rothwell, Pennaeth yr Adran Ieithoedd, Cyfieithu a Chyfathrebu yng Ngholeg y Celfyddydau a’r Dyniaethau: “Mae hwn yn llwyddiant eithriadol. Dyma’r tro cyntaf i’r pedair gwobr hyn, a enillwyd sawl blwyddyn yn ôl gan gyn athrawon ieithoedd hynod nodedig yn Abertawe, gael eu hennill gan yr un myfyriwr – mae’n anarferol tu hwnt gweld cryfder o’r fath wedi’i rannu’n gyfartal ar draws dwy iaith fodern.

“Da iawn yn wir i Sophie. Estynnwn ein llongyfarchiadau gwresog iddi!”

Mae Sophie, a orffennodd interniaeth chwe wythnos yn ddiweddar yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru gyda Mark Drakeford, AC Llafur dros Orllewin Caerdydd, wrthi’n mwynhau gwyliau haeddiannol ar hyn o bryd.

Bydd yn dychwelyd i Brifysgol Abertawe ym mis Hydref i astudio ar gyfer cymhwyster ôl-raddedig – gradd Meistr (MA) mewn Gwleidyddiaeth, hefyd yng Ngholeg y Celfyddydau a’r Dyniaethau.

Am ragor o wybodaeth ynglŷn â Choleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau ym Mhrifysgol Abertawe, ewch i http://www.swansea.ac.uk/artsandhumanities/.