Gwobr Cyfrwng i John Hefin

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Cafodd Gwobr Cyfrwng eleni ei chyflwyno i’r cynhyrchydd a’r cyfarwyddwr dylanwadol, John Hefin, a hynny am ei gyfraniad allweddol i fyd y cyfryngau yng Nghymru.

Derbyniodd y wobr mewn seremoni arbennig yng Ngwesty Morgans, Abertawe ar nos Iau 12 Gorffennaf 2012, a gynhaliwyd fel rhan o Gynhadledd Cyfrwng eleni ym Mhrifysgol Abertawe.

John Hefin 2

Mae John Hefin yn uchel iawn ei barch oherwydd ei waith ar gyfer BBC Cymru dros y blynyddoedd. Yn ystod ei gyfnod yno fel Pennaeth Drama, bu’n gyfrifol am gynhyrchu a chyfarwyddo rhaglenni rhagorol megis Bus to Bosworth, Life and Times of David Lloyd George, Tough Trade yn ogystal â’r ffilm fythgofiadwy Grand Slam.

Ond wrth greu’r gyfres sebon boblogaidd, Pobol y Cwm, y gwnaeth ei gyfraniad mwyaf i fyd y teledu. Pobol y Cwm oedd creadigaeth John Hefin ar y cyd â’r awdur Gwenlyn Parry ac yn sgîl ei waith nodedig ar y gyfres honno, enillodd Pobol y Cwm wobr BAFTA Cymru.

Meddai John Hefin: “Mae hi’n anrhydedd cael derbyn gwobr Cyfrwng ac yn fraint cael dilyn yn ôl troed pobl arbennig iawn fel Emyr Humphreys, Merêd, Gwyn Thomas, Dave Berry, Peter Stead, Owen Edwards, Elan Closs Stephens a Marc Evans. Mae'n hynod o braf derbyn cydnabyddiaeth gan y diwydiant a'r byd academaidd fel ei gilydd.”

Llun: Prif Weithredwr S4C, Ian Jones yn cyflwyno'r wobr i John Hefin.