Gwobr M Wynn Thomas: Gwobr newydd i gydnabod Llên Saesneg Cymru

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae gwobr bwysig newydd a enwyd er anrhydedd un o academyddion Prifysgol Abertawe wedi cael ei lansio i gydnabod y gwaith beirniadol gorau ym maes Llên ac Iaith Saesneg Cymru.

Mae gwobr bwysig newydd  a enwyd er anrhydedd un o academyddion Prifysgol Abertawe wedi cael ei lansio i gydnabod y gwaith beirniadol gorau ym maes Llên ac Iaith Saesneg Cymru.

Prof Wynne Thomas

Bydd Gwobr M Wynn Thomas yn cydnabod y traethawd beirniadol gorau , sy wedi ei gyhoeddi neu sydd heb fod wedi ei gyhoeddi, yn y flwyddyn 2011 ac fe'i cefnogir gan Parthian, Cyfres Library of Wales, Prifysgol Abertawe a Chymdeithas Ddysgedig Cymru.

Mae'r wobr wedi ei henwi er anrhydedd i'r Athro Wynn Thomas, cyn-Gyfarwyddwr a sylfaenydd CREW (Canolfan Ymchwil i Lên ac Iaith Saesneg Cymru) ym Mhrifysgol Abertawe. Ar hyn o bryd yr Athro Thomas yw Cadeirydd Cyngor Llyfrau Cymru, a deilydd Cadair Emyr Humphreys mewn Llên Saesneg Cymru ym Mhrifysgol Abertawe.

Cafodd ei ethol yn Gymrawd o'r Academi Brydeinig yn 1996, derbyniodd anrhydedd uchaf Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn 2000, ac yn 2007 fe'i gwnaethpwyd yn Swyddog Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (OBE) am ei wasanaeth i ddwy lenyddiaeth Cymru . Ar hyn o bryd mae’n gwasanaethu fel Is-Lywydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, gyda chyfrifoldeb penodol ar gyfer y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol.

Dywedodd yr Athro Richard B. Davies, Is-Ganghellor Prifysgol Abertawe, 'Mae'n anarferol iawn i unrhyw wobr gael ei henwi ar ôl academydd sy’n dal i fod yn fyw. Mae hon yn anrhydedd anhygoel sy’n cydnabod gorchestion ysgolheigaidd yr Athro Wynn Thomas ei hunan, sydd wedi ennill iddo gydnabyddiaeth fyd-eang, a’i ddylanwad ym maes Llên Saesneg Cymru. Mae ei Brifysgol yn dathlu gydag ef. '

Dywedodd Dr Kirsti Bohata, Cyfarwyddwr CREW, Prifysgol Abertawe, ‘Mae ysgolheictod Wynn Thomas wedi diffinio maes Llên ac Iaith Saesneg Cymru ac mae ei angerdd a’i haelioni wedi ysbrydoli cenedlaethau newydd o ysgolheigion. Mae'n briodol bod gwobr i gydnabod rhagoriaeth yn cael ei sefydlu yn ei enw. '

Bydd enillydd y wobr yn derbyn £ 250 a set gyflawn o deitlau Cyfres Library of Wales Parthian, gydag awduron dau draethawd sy’n cael canmoliaeth arbennig hefyd yn derbyn llyfrau o’r gyfres. Bydd y Wobr yn cael ei chyhoeddi yng Nghynhadledd  flynyddol Llên ac Iaith Saesneg Cymru ym Mawrth 2012.

Y panel beirniaid fydd Dr Katie Gramich o Brifysgol Caerdydd, Dr Alyce von Rothkirch o Brifysgol Abertawe a’r Athro Susan Bassnett o Brifysgol Warwick.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Delyth Purchase, Swyddfa Cysylltiadau Cyhoeddus Prifysgol Abertawe, Ffôn 01792 295050 neu  e-bost d.purchase@abertawe.ac.uk