Lansiad Technoleg Cyfryngau Cymunedol Am Ddim i Bontio’r Bwlch Digidol

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd technoleg newydd a fydd yn golygu bod cyfryngau cymunedol ar gael am ddim i bobl mewn gwledydd datblygol yn cael ei lansio’r wythnos nesaf.

Bydd technoleg newydd a fydd yn golygu bod cyfryngau cymunedol ar gael am ddim i bobl mewn gwledydd datblygol yn cael ei lansio’r wythnos nesaf.

Mae Cyfrifiadurwyr o Brifysgol Abertawe wedi datblygu pecyn cymorth digidol mewn partneriaeth â chydweithwyr o Brifysgol Surrey a Phrifysgol Glasgow yn y DU ochr yn ochr â chydweithwyr o Dde Affrica (Prifysgol  Cape Town, Prifysgol Fetropolitan Nelson Mandela, CSIR a Transcape).

Mae’r pecyn cymorth, sy’n ganlyniad o brosiect Economi Digidol a ariennir gan Gyngor Ymchwil y DU (RCUK), wedi’i fwriadu i fod yn agored ac am ddim i ddefnyddwyr, a bydd yn cael ei arddangos ar ddydd Mawrth 3 Gorffennaf 2012 yn y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol, Llundain.

Mae’r pecyn cymorth Cyfryngau Cymunedol yn darparu technoleg i ganiatáu i ddefnyddwyr creu a rhannu cynnwys mewn llefydd lle y ceir lefelau llythrennedd testunol a chyfrifiadura isel. Gall hefyd weithredu mewn ardaloedd lle bo pwer a signal rhwydwaith cyfyngedig.

Mae’r pecyn cymorth yn cynnwys cymwysiadau amlgyfrwng ar gyfer ffôn symudol (‘Com-Phone’), ystorfa ar ffurf tabled (‘Com-Tablet’), gorsaf gwefru ffonau (‘Com-Charge’), a dyfais camera cymunedol ('Com-Cam') ar gyfer rhannu cynnwys ffonau symudol ar setiau teledu technoleg isel.  

Meddai’r Athro Matt Jones o Goleg Gwyddoniaeth Prifysgol Abertawe: “Nod y prosiect hwn yw cynnig golwg ar sut y dylid dylunio a defnyddio systemau rhannu cyfryngau cymdeithasol er lles biliynau o bobl y tu hwnt i gyd-destun y byd “datblygedig”. Rydym hefyd yn awyddus i weld sut y gall y gwaith effeithio ar bobl sydd wedi’u gwasanaethu’n wael gan wasanaethau rhwydweithio cymdeithasol confensiynol ble bynnag y maen nhw yn y byd, gan gynnwys y DU.”

Yn y lansiad, a gadeirir gan y sylwebydd digidol Bill Thompson, bydd cyfle hefyd ar gyfer arddangosiadau ymarferol ac i ddysgu mwy am sut i ddefnyddio neu addasu’r offer. Caiff y pecyn cymorth ei lansio wrth ochr un arall, Placebooks, a ddatblygir hefyd mewn partneriaeth, sydd wedi’i dargedu at gynulleidfa’r DU.

Meddai’r Athro David Frohlich, Cyfarwyddwr Canolfan Ymchwil y Byd Digidol ym Mhrifysgol Surrey: “Gellir defnyddio elfennau gwahanol o’r pecyn cymorth ar eu hunain neu gyda’i gilydd, yn dibynnu ar anghenion y grwp cymunedol sy’n cymryd rhan.

“Rydym wedi dod i’r arfer â meddwl am y rhyngrwyd fel y lle delfrydol i storio a chael mynediad at wybodaeth ddigidol.  Ond mewn rhanbarthau lle nad yw hyn yn gyraeddadwy nac yn fforddiadwy, rhaid dod o hyd i atebion mwy lleol i’r broblem. Mae technoleg symudol yn rhan o’r ateb hwnnw, yn enwedig pan fod modd ei chysylltu mewn modd ad hoc.”

Am ragor o wybodaeth ar Cyfryngau Cymunedol ewch i: http://cs.swan.ac.uk/the-next-billion/research.php

Am ragor o wybodaeth ar y pecyn cymorth a’r digwyddiad lansio ewch i: http://www.digitaleconomytoolkit.org/