Medalau, Mecsicanwyr ac etifeddiaeth barhaol – Abertawe yn rhan ganolog mewn haf o chwaraeon

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Gyda chyn-fyfyrwyr a myfyrwyr presennol yn cystadlu dros dîm Prydain Fawr, y fflamau Olympaidd a Pharalympaidd yn ymweld â’r campws, ac athletwyr o Mecisco yn hyfforddi gyda ni, mae Prifysgol Abertawe wedi chwarae ei rhan mewn haf anhygoel o lwyddiant chwaraeon.

Dewiswyd tri o’n myfyrwyr ar gyfer Tîm Prydain Fawr yn y Gemau Paralympaidd.  Yn cystadlu yn ei Gemau cyntaf, cyrhaeddodd Gemma Almond y rownd derfynol ar gyfer ei dwy gystadleuaeth nofio. Enillodd ei chyd nofiwr Matt Whorwood, o’r adran Beirianneg, fedal efydd yn y 400m dull rhydd. Ac enillodd David Smith, hefyd o’r Adran Beirianneg, fedal arian yn y gystadleuaeth Boccia.  Rydym yn hynod falch o bob un ohonynt!

Enillodd y cyn-fyfyriwr Liz Johnson fedal efydd yn y 100m dull broga, ac roedd y cyn-fyfyriwr gwyddor chwaraeon James Roberts yn rhan o dîm pêl-foli eistedd Prydain Fawr, ei Gemau cyntaf yn cystadlu yn y ddisgyblaeth honno.

Ac roedd un o raddedigion Abertawe hyd yn oed yn gyfrifol am gydlynu teithiau’r fflamau Olympaidd a Pharalympaidd! Roedd Claudine Ratnayke, a raddiodd mewn Gwyddor Reoli Americanaidd ym 1997, yn gyfrifol am gynllunio’r llwybr a goruchwylio’r fflam ar ei thaith.

Er bod y Gemau wedi dod i ben, mae Abertawe’n parhau i fod yn ganolfan chwaraeon o bwys.  Mae ein cyfleusterau, a ddefnyddir gan athletwyr Olympaidd, ar gael i’n holl fyfyrwyr. Mae ein hymchwilwyr ar draws sawl disgyblaeth, o iechyd plant i wyddor chwaraeon, yn gweithio ar brosiectau i wella chwaraeon a ffitrwydd ar bob lefel, o athletwyr elit i’r boblogaeth gyffredinol.  Dyma sut yr ydym yn chwarae ein rhan i greu etifeddiaeth barhaol ar gyfer  Llundain 2012.