Myfyriwr Ysgrifennu Creadigol yn Ennill Lle gyda’r BBC

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae myfyriwr Ysgrifennu Creadigol o Brifysgol Abertawe wedi ennill lle gwerthfawr tu hwnt ar gynllun hyfforddi Cronfa Talent Cynhyrchu’r BBC.

Mae Kelsey Richards, o Faesteg, yn un o 13 ymgeisydd llwyddiannus i’w lleoli yng Nghaerdydd. O’r 2,298 o ymgeiswyr i’r cynllun, sy’n cwmpasu’r DU gyfan, dim ond 123 a gafodd eu derbyn.

Mae’r cynllun yn cynnig hyfforddiant i ymgeiswyr yn ogystal â nifer o gytundebau tymor byr ar gynyrchiadau dros y deuddeg mis nesaf mewn maes diddordeb megis Teledu/Radio neu Ddrama, ac i lawer mae’n ddechreuad da ar gyfer gyrfa lwyddiannus mewn darlledu.

Anogwyd Kelsey i wneud cais am y cynllun tra oedd hi’n gweithio ar ei MA mewn Ysgrifennu Creadigol. Meddai Kelsey, “Roedd gen i ddiddordeb yn arbennig mewn gwneud cais am y cynllun ar ôl astudio ar gyfer y modiwlau ysgrifennu ar gyfer y radio ac ysgrifennu sgriptiau ffilm. Roedd y modiwlau hyn, yn arbennig y modiwl radio, yn caniatáu i mi ennill mwy o wybodaeth o sut y mae’r BBC yn gweithio (yn enwedig y daith i’r BBC ym Mryste i weld The Hound of the Baskervilles yn cael ei recordio ar gyfer y radio) a chwrdd â chynhyrchwyr fel James Robinson.

“Gwnaeth hyn fy ysbrydoli gymaint i wneud cais, ac rwy’n credu iddo roi’r wybodaeth werthfawr yr oedd ei hangen arnaf i lwyddo yn wyneb cystadleuaeth mor frwd. Gwnaeth yr MA wir ganiatáu i mi archwilio fy syniadau creadigol ac, yn bwysicach oll, i gadw fy nghynulleidfa mewn cof trwy’r amser.

“Rwy’n falch iawn fy mod wedi cael y cyfle hwn ac wedi mynychu digwyddiad rhwydweithio yn Llundain ar Orffennaf 25, a oedd yn ardderchog. Rwy’n credu y bydd y cynllun hwn yn agor drysau nad oeddent erioed wedi ymddangos fel eu bod ar agor i mi o’r blaen. Mae’r MA wedi rhoi’r hyder yr oedd ei angen arnaf i wneud cais, a gobeithio, y sgiliau sydd eu hangen i lwyddo.”

Cofrestrodd Kelsey ar y cwrs MA Ysgrifennu Creadigol ar ôl cwblhau ei BA mewn Saesneg a Seicoleg ym Mhrifysgol Abertawe.  Mae hi wrthi ar hyn o bryd yn ysgrifennu ei thraethawd hir ar gyfer ei MA ac yn disgwyl cwblhau ei gradd Meistr yr hydref hwn. Mae Kelsey eisoes wedi dechrau ei hyfforddiant BBC ffurfiol ac yn aros iddynt benodi rheolwr talent/mentor ar ei chyfer a fydd yn trefnu cytundebau yn seiliedig ar brofiad a diddordebau penodol Kelsey.

“Rydw i wedi pwysleisio mai drama Deledu/Radio yw’r maes o’m dewis, ond rydw i’n hapus ystyried gwaith mewn unrhyw faes gan ei fod i gyd yn brofiad gwerthfawr, yn enwedig o ystyried mai dim ond ar ddechrau’r siwrne, fel petai, yr ydw i,” meddai Kelsey. 

“Yn dilyn fy hyfforddiant yn y BBC, rydw i wedi ysgrifennu dau flog am y profiad sydd wedi’u darllen a’u haildrydar gan bobl fel The Unit List, Academi Hyfforddiant y BBC, Media Social Tips a Chyfleoedd Ieuenctid, sy’n deimlad anhygoel. Gwnaeth hefyd gael dros fil o hits mewn wyth diwrnod, sy’n anghredadwy.

 “Ar hyn o bryd rydw i’n gweithio fel cynorthwyydd darlledu ar raglen radio yn Llundain, Group Therapy FM, sy’n arbennig o ddiddorol i mi oherwydd fy ngradd israddedig mewn Seicoleg. Ar ôl canfod fy mod yn awdur, mae’r cynhyrchydd wedi caniatáu i mi roi cynnig ar ysgrifennu sgriptiau ar gyfer y rhaglen, sy’n rhywbeth yr wyf yn falch iawn ohono, ac rydw i’n mwynhau’r sialens yn fawr.”

Meddai’r dramodydd D.J. Britton cydlynydd rhaglenni ysgrifennu dramatig Prifysgol Abertawe, “Mae gan Kelsey dalent, penderfyniad ac ysbryd creadigol hael, ac rydym ni ar y staff Ysgrifennu Creadigol wedi’n cyffroi yn fawr gan ei llwyddiant. Mae hi’n enghraifft ardderchog o fyfyriwr sy’n cyfrannu’n gyfan gwbl at bopeth sydd gan gwrs i’w gynnig ac rydw i mor falch bod y cyfleoedd a roddir iddi drwy'r MA Ysgrifennu Creadigol wedi dwyn ffrwyth iddi.

“Mae MA Ysgrifennu Creadigol yn nodedig am ei ystod o fodiwlau – o ffuglen a barddoniaeth i ysgrifennu ar gyfer y llwyfan a’r sgrin, ac rydym wrthi ar hyn o bryd yn arloesi modiwl newydd yn ym maes dramayddiaeth ryngwladol/golygu sgriptiau rhyngwladol sy’n tyfu’n gyflym. Rydw i’n credu ei fod yn bwysig bod myfyrwyr fel Kelsey’n gallu gweithio ar draws sawl dull o ysgrifennu cyn iddynt setlo yn y meysydd sydd o ddiddordeb fwyaf iddynt.”

Am ragor o wybodaeth ar gyfleoedd ysgrifennu creadigol yn Abertawe e-bostiwch stephanie.davies@abertawe.ac.uk (ceisiadau MA ysgrifennu creadigol / ymholiadau ffuglen); n.jenkins@abertawe.ac.uk (barddoniaeth); neu d.j.britton@abertawe.ac.uk (drama/perfformiadau) neu ewch i’r wefan www.swansea.ac.uk..