Myfyrwyr Peirianneg yn cyflymu i mewn i’r lôn gyflym!

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae tîm o Goleg Peirianneg Prifysgol Abertawe wedi dylunio a gwneud car chwyldroadol newydd a gafodd ei ganmol mewn cystadleuaeth ddylunio ryngwladol.

Llwyddodd y tîm o Abertawe i ddatblygu ac adeiladu’r integriad llwyddiannus cyntaf o beiriant gyda thrawsyriant cyfnewidiol parhaus a thyrbochwythu yn hanes Formula Student y DU.

Formula-student-car

Wedi’i threfnu gan Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol, Formula Student yw un o’r cystadlaethau dylunio peirianneg chwaraeon moduro addysgol mwyaf sefydledig ac adnabyddus yn Ewrop.   

Gofynnir i grwpiau o fyfyrwyr ddylunio, adeiladu, a rasio ceir rasio cystadleuol dull fformwla; gan ddadansoddi a chyfiawnhau’r dyluniad, y gost a’r cynlluniau busnes perthynol. Eleni yn Silverstone, cofrestrwyd dros 130 o dimoedd Prifysgol o 34 gwlad (o Wlad yr Iâ i Awstralia), gyda thros 2500 o fyfyrwyr yn cymryd rhan. Roedd y gystadleuaeth yn achlysur i arddangos rhagoriaeth gwaith myfyrwyr Abertawe.

Formula-Student-Team

Roedd car Prifysgol Abertawe’n ysgafn ac roedd yn cyflwyno arddull gywasgedig newydd sbon. Roedd modd i’r myfyrwyr hyn ddylunio a chreu’r car chwyldroadol newydd hwn mewn blwyddyn yn unig!

Yn y gystadleuaeth, y car oedd un o’r rhai mwyaf gweladwy, un o’r rhai yr ymwelwyd mwyaf ag ef, ac yn un o’r rhai a ganmolwyd fwyaf, gan gyrraedd y 12fed safle ar y cyfan yn y gystadleuaeth ddylunio, a 4ydd ymhlith y timoedd o Brydain.

Yn y cystadlaethau cyflymiad a sbrintio perfformiodd y car yn dda, gan ddod yn 5ed o blith y timoedd o’r DU. Yn anffodus yn ystod y gystadleuaeth ddygnwch terfynol cafwyd ambell i broblem gyda’r system ail danio yn cynhesu wrth i’r gyrwyr gyfnewid. Ond hyd yn oed gyda’r gosb hon, daeth Prifysgol Abertawe yn y 30ain safle ar y cyfan ac yn 7fed safle ymhlith y 40 o dimoedd a oedd yn bresennol o’r DU, gan ddod y tîm gorau o Gymru!  

Meddai Dr Davide Deganello, Darlithydd ym Mhrifysgol Abertawe: “Roedd fy mlwyddyn gyntaf fel Cynghorydd Formula yn brofiad ardderchog. Cefais gyfle i gyfarfod â myfyrwyr eithriadol a chryf eu cymhelliant, a “fentrodd ac a enillodd”.