O nanoiechyd i Richard Burton – bydd ymweliad ymchwilwyr yn cryfhau cysylltiadau Prifysgol Abertawe ag UDA

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd dau ymchwilydd hŷn o brifysgol Abertawe’n cryfhau cysylltiadau ag America , o Ddyddiaduron Richard Burton i ddatblygiadau newydd ym maes nanoiechyd, wrth iddynt gynrychioli Abertawe a Chymru yn Unol Daleithiau America yr wythnos nesaf.

Burton diaries with gloved hands

Prif ganolbwynt yr ymweliad, gan Is-ganghellor y Brifysgol yr Athro Richard B Davies a’r Athro mewn hanes Chris Williams, yw lansiad The Richard Burton Diaries yn yr Unol Daleithiau.  Mae’r dyddiaduron a ysgrifennwyd â llaw, a ddechreuodd Burton ym 1939 ac sy’n gorffen ychydig cyn ei farwolaeth ym 1984, yn rhan o archif Richard Burton ym Mhrifysgol Abertawe. 

Rhoddodd gwraig Burton, Sally, y dyddiaduron yn rhodd i’r Brifysgol. Maen nhw wedi’u golygu i’w cyhoeddi gan yr Athro Chris Williams, a byddant yn cael eu lansio o flaen ffigyrau Americanaidd hŷn o fyd y celfyddydau a’r byd academaidd mewn digwyddiadau yn Efrog Newydd a Los Angeles.

Fodd bynnag, mae cysylltiadau Prifysgol Abertawe gydag UDA yn mynd yn bell y tu hwnt i ddyddiaduron Richard Burton.

- Nanoiechyd – Mae Prifysgol Abertawe’n cydweithio â sawl sefydliad yn UDA yn y maes hwn gan gynnwys Texas A and M, a Phrifysgol Rice

- Mae Ysgolheigion Preswyl o’r Unol Daleithiau wedi dysgu yn Abertawe, er enghraifft o Brifysgol Talaith Colorado, Prifysgol Gogledd Carolina Wilmington a Phrifysgol Tennessee

- Mae Cynlluniau cyfnewid i fyfyrwyr wedi paru Abertawe â thros 20 o sefydliadau partner yn UDA, gan gynnwys Prifysgol Talaith California, Prifysgol Illinois, a Phrifysgol Talaith Louisiana

-  Mae Adran Astudiaethau Americanaidd yn cynnig arbenigedd ar UDA, a gwnaeth ei hadnoddau ardderchog ar Ryfel Cartref yr Unol Daleithiau ddenu ymweliad yn ddiweddar gan unigolyn nodedig sy’n frwdfrydig am hanes America - rheolwr tîm pêl-droed Manchester United - Syr Alex Ferguson

Richard Burton's diaries - different formats

Tanlinellodd yr Athro Richard B Davies, a fydd yn cwrdd â chynghorau ymchwil a ffigyrau hŷn o Brifysgolion Americanaidd yn ystod yr ymweliad, bwysigrwydd y cysylltiadau hyn:

“Mae cysylltiadau rhyngwladol actif yn hanfodol o safbwynt gwneud Abertawe’n brifysgol gref sy’n ymchwil-ddwys a chreu’r cyfleoedd gyrfaol a chyfleoedd gwella bywyd y mae ein myfyrwyr yn eu mwynhau.

Ers ei sefydlu ym 1920, mae Prifysgol Abertawe wedi croesawu cyfleoedd i weithio’n fyd-eang tra’n aros yn ffyddlon i’w gwreiddiau rhanbarthol ar yr un pryd.

Mae’r Brifysgol yn weithgar yn rhyngwladol, yn denu myfyrwyr a staff o dros gant o wledydd, gydag oddeutu 30% o’r hol aelodau staff newydd wedi’u recriwtio dros y pum mlynedd ddiwethaf yn dod o’r tu allan i’r DU.

Mae cannoedd o fyfyrwyr Abertawe eisoes yn treulio rhan o’u cwrs yn astudio rhywle arall yn y byd ac mae hwn yn brofiad sy’n eu haeddfedu’n fawr ac y mae cyflogwyr yn ei werthfawrogi’n fawr. Rydym am ymestyn ar y rhifau hyn ymhellach.

Mae ein Hysgolion Academaidd yn mwynhau cysylltiadau cryf â sefydliadau partner ar draws y byd, ac mae gan lawer o waith dysgu ac addysgu’r Brifysgol berthnasedd byd-eang.

Mae cynnal y cysylltiadau hyn ac ymestyn arnynt yn bwysig tu hwnt, a byddwn yn defnyddio’r cyfle hwn i wneud yn siŵr bod Abertawe’n y mynnu’r sylw yn UDA.”

Professor Chris Williams

Meddai’r Athro Chris Williams, a olygodd The Richard Burton Diaries, ac a fydd yn siarad amdanynt yn y digwyddiadau lansio yn UDA:

“Roedd enw Richard Burton, ac mae’n dal i fod, yn adnabyddus yn fyd eang ac rydw i wrth fy modd o gael cyfle i siarad ar lwyfan rhyngwladol am ei ddyddiaduron personol, sy’n dangos y dyn diwylliedig, yr ysgolhaig a’r dyn deallus yr oedd e. Ac rydw i’n credu y byddai yntau wedi bod wrth ei fodd hefyd.”