Prifysgol Abertawe’n Cyrraedd y Nod yng Ngwobrau Gwyrdd y Prifysgolion.

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Prifysgol Abertawe wedi cyrraedd y nod ac wedi derbyn gwobr anrhydedd 2:1 am ei pherfformiad amgylcheddol yn nhablau cynghrair prifysgolion mwyaf gwyrdd y DU a gyhoeddwyd heddiw.

Gan ddringo 52 safle hynod ganmoladwy, mae Prifysgol Abertawe wedi dod yn un o’r prifysgolion sydd wedi gwella’r mwyaf yn y DU. Sgoriodd y Brifysgol yr uchafswm bwyntiau oedd ar gael ar gyfer Ennyn Diddordeb Staff a Myfyrwyr, Cwricwlwm a Pholisi Amgylcheddol. Mae hefyd wedi cynyddu ei sgôr eleni mewn Bwyd Cynaliadwy, Staffio a Rheoli Carbon ac wedi gweithio’n agosach ag Undeb y Myfyrwyr i gydweithio i wella’i pherfformiad gwyrdd.

Green League awards

Mae Cynghrair y Bobl a’r Blaned Werdd yn dyfarnu dosbarthiadau mewn dull prifysgol i Brifysgolion y DU yn seiliedig ar eu rheolaeth a’u perfformiad amgylcheddol a moesegol. Mae sefydliadau addysg yn gosod eu holl eco-rinweddau yn erbyn ei gilydd ac mae’r gystadleuaeth yn frwd gan fod myfyrwyr am i’w prifysgolion fod yn sefydliadau cynaliadwy. Y llynedd roedd Prifysgol Abertawe yn 122ain allan o 138 o sefydliadau, gan ‘fethu’r’ Gynghrair Werdd. Fodd bynnag, eleni mae wedi neidio i fyny i’r 70fed safle allan o 145.

Cynhaliodd y Brifysgol ei Mis Cynaliadwyedd cyntaf ym mis Mawrth 2012, ac roedd nifer sylweddol o staff a myfyrwyr yn bresennol mewn ystod amrywiol o ddigwyddiadau gan gynnwys seminar cyflymder cynaliadwyedd a thaith bywyd gwyllt o’r campws. Mae’r Brifysgol hefyd wedi gwella ei chyfradd ailgylchu yn ogystal â lleihau’r dwr a ddefnyddir er gwaethaf twf parhaus yn ei gweithgarwch ymchwil.

Meddai’r Athro Iwan Davies, Dirprwy Is-ganghellor dros Ryngwladoli, gyda chyfrifoldeb dros Reoli Ystadau: “Rydym yn hapus iawn gyda’r gwelliant cyflym yn ein safle yn y Gynghrair Werdd ac edrychwn ymlaen at gael ein cydnabod am ein gwaith yn y maes hwn yn y dyfodol. Eleni bu Tîm Cynaliadwyedd newydd y Brifysgol yn cyflwyno mentrau gwyrdd ar draws ein campws a bu’n cydlynu’r gweithgareddau hyn yn well. Mae ein staff a’n myfyrwyr wir wedi codi eu gêm wrth helpu’r Brifysgol i wella ei pherfformiad yn y maes hwn, a diolch iddyn nhw rydym yn gallu bod yn falch o’n statws newydd yn y gynghrair”.

Meddai Dr Heidi Smith, Rheolwr Cynaliadwyedd y Brifysgol: "Mae Prifysgol Abertawe wrth ei bodd gyda’i safle gwell yn y Gynghrair Werdd eleni. Roedd hyn o ganlyniad i waith allweddol a wnaed yn ystod y flwyddyn gan gynnwys Polisi Cynaliadwyedd, cyflwyno mentrau newydd megis rhandir gardd i fyfyrwyr, y Gronfa Dyfodol Disglair, a chystadlaethau ac ymgyrchoedd ymwybyddiaeth i staff a myfyrwyr ar y campws.

“Er bod hyn yn dangos cynnydd gwych, rydym yn cydnabod bod llawer y gallwn ei wneud o hyd i wella perfformiad amgylcheddol y Brifysgol ymhellach. Fel prifysgol ymchwil ddwys, bydd yn anodd i ni leihau ein defnydd o adnoddau naturiol o’i gymharu â rhai sefydliadau eraill; fodd bynnag, rydym yn benderfynol, trwy gael staff a myfyrwyr i gymryd rhan yn yr ymdrech, o fod mor effeithlon â phosib."

Y Gynghrair Werdd yw’r unig gynghrair yn seiliedig ar berfformiad amgylcheddol a moesegol i’r holl brifysgolion yn y DU. Mae’n seiliedig ar wybodaeth a gyflwynir gan y prifysgolion i’r Bobl a’r Blaned, sef y rhwydwaith myfyrwyr mwyaf ym Mhrydain sy’n ymgyrchu i gael gwared â thlodi byd-eang, amddiffyn hawliau dynol a diogelu’r amgylchedd. Mae Rhwydwaith y Bobl a’r Blaned yn cynnwys grwpiau mewn prifysgolion, colegau ac ysgolion, yn ogystal â llawer o gefnogwyr unigol eraill.

Yn y flwyddyn sydd i ddod bydd Prifysgol Abertawe’n cyhoeddi strategaeth rheoli carbon newydd a chynllun bioamrywiaeth i’r campws, ac mae’r strategaeth a’r cynllun yma’n cael eu datblygu gyda mewnbwn llawer o ddeiliaid diddordeb. Gellir cael mynediad i ddata tabl llawn y Gynghrair Werdd yn: http://peopleandplanet.org/greenleague