Prifysgol Abertawe’n ennill gwobrau Adeiladu Arbenigrwydd

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Prifysgol Abertawe wedi llwyddo i ennill nid un ond dwy wobr flaenllaw ym maes cystadleuol adeiladu arbenigrwydd

Dyfarnwyd gwobr Gofal Iechyd BREEAM Cymru 2008 ar gyfer adeiladau newydd yn 2012  i’r adeilad eiconig o’r radd flaenaf, y Sefydliad Gwyddor Bywyd (Cyfnod 2), yng nghinio gwobrau blynyddol Adeiladu Arbenigrwydd yng Nghymru yn Stadiwm SWALEC yng Nghaerdydd.

Adeiladwyd prosiect y Sefydliad Gwyddor Bywyd (Cyfnod 2) gan y Leadbitter Group, a dderbyniodd Wobr Efydd ar lefel genedlaethol gan y Cynllun Adeiladwyr Ystyriol. Caiff y wobr BREEAM ei hychwanegu at gwpwrdd tlysau ILS2.

Mae’r datblygiad ILS2 yn fenter ar y cyd rhwng Prifysgol Abertawe a Bwrdd Iechyd GIG Abertawe Bro Morgannwg, ac fe’i lleolir ar dir y GIG rhwng y campws ac Ysbyty Singleton. Roedd rhaid darparu adeilad cynaliadwy (o safbwynt y ffordd iddo gael ei adeiladu a’r ffordd y caiff ei ddefnyddio) a fyddai hefyd yn addas ar gyfer swyddogaethau arbenigol iawn ymchwil glinigol, treialon clinigol a’r Ganolfan NanoIechyd . Y prif nodweddion a helpodd i sicrhau sgôr BREEAM uchel oedd: gwastraff isel, dwr isel, ynni isel, ynni adnewyddadwy a chyngor penodol ar gynaliadwyedd drwodd i’r cam trosglwyddo.

Mae enillwyr y gwobrau BREEAM yn cynrychioli’r enghreifftiau gorau o brosiectau adeiladu ac yn cydnabod cyrhaeddiad y rhai hynny sy’n ymwneud â’r prosiectau hyn o safbwynt eu dull o ymdrin ag agweddau amgylcheddol rhagofynion a chynllun yr adeiladau a’r broses o’u hadeiladu.

Enillodd Prifysgol Abertawe hefyd wobr Adeiladu Arbenigrwydd yng Nghymru  (CEW) 2012 am “Integreiddio a Gweithio ar y Cyd” yn yr un digwyddiad.

Enillodd y Brifysgol ei gwobr am ei Fframwaith Contractwyr ac Ymgynghorwyr sy’n arddangos yr ystod eang o brosiectau adeilad newydd, ad-drefnu, ailwampio, profiad myfyrwyr a chynnal a chadw a gynhaliwyd dros y blynyddoedd diwethaf. Mae’r prosiectau helaeth diweddar o ansawdd uchel wedi’u cynnal gan ddefnyddio’r ethos gwerth ychwanegol a gweithio ar y cyd, sy’n deillio o’r Fframwaith.  

Trwy Wobrau CEW mae adeiladu yng Nghymru wedi dangos yn gyson ei fod yn gosod safon uchel o arfer gorau a chydweithio, gan wneud gwaith y beirniaid o ddewis enillwyr posibl yn anoddach bob blwyddyn. Bu’r gystadleuaeth yn frwd gyda 6 neu 7 o brosiectau yn cael eu rhoi ar y rhestr fer mewn rhai categorïau.

Roedd Craig Nowell, Cyfarwyddwr Ystadau a Chyfleusterau yn falch iawn o dderbyn y gwobrau, meddai; “ Mae Prifysgol Abertawe wrthi ar hyn o bryd yn profi newid trawsnewidiol bwriadol ac mae’n rhaid iddi aros ar flaen y gad i ddatblygu cyfleusterau sy’n darparu o fewn y sector Sefydliadau Addysg Uwch newidiol a heriol. Mae angen cydnabod y gwaith o ailfodelu Campws Singleton am y ffordd oleuedig y mae’n ymdrin ag isadeiledd etifeddol – un o’r prif faterion sy’n wynebu’r sector yng Nghymru. Mae ailwampio gofalus, diweddariadau amgylcheddol, ac adleoli strategol o le yn cyfuno gyda rhai adeiladau newydd penodol i ffurfio strategaeth esblygol a hirdymor ar gyfer gwelliant.”

“Rydym wrth ein boddau bod y gwobrau hyn yn cydnabod ymdrechion y rhai hynny sy’n ymwneud â’r gwaith o helpu i droi ein rhaglen uchelgeisiol ar gyfer ehangu a datblygu’r campws yn realiti a fydd yn darparu amgylchedd o ragoriaeth ymchwil, gan ddarparu profiad rhagorol i fyfyrwyr a chan ddod yn bwerdy ar gyfer twf yn yr economi rhanbarthol. “