Prifysgol Abertawe'n taro gwyrdd dros Gymru

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Prifysgol Abertawe wedi dangos ei bod ar flaen y gad yng Nghymru trwy gynnal ei seremoni Gwobrau Effaith Werdd gyntaf i hyrwyddo ac i ddathlu ymarfer amgylcheddol da.

Mae Effaith Werdd yn gynllun cenedlaethol i achredu gwaith amgylcheddol. Mae'n cynnig cyfle i dimoedd o staff weithio tuag at gyfres o wobrwyon, trwy herio adrannau i gymryd nifer o gamau ymarferol hawdd a fydd o fudd i'r amgylchedd. Y mwyaf o'r rhain mae adran yn eu cymryd, y mwyaf o bwyntiau a geir, gan arwain at wobrau Efydd, Arian, Aur, neu Blatinwm. Mae Effaith Werdd yn ymwneud â gwella parhaus, yn hytrach nag â rhestru adrannau mewn trefn unwaith ac am byth.

Ym Mhrifysgol Abertawe, mae Effaith Werdd yn gystadleuaeth gyfeillgar rhwng timoedd o fewn y Brifysgol. Mae pob tîm yn cael llyfr gwaith ar-lein sy'n rhestru camau amgylcheddol, ac yn annog adrannau i'w cymryd. Mae'r cynllun yn agored i aelodau brwd o'r staff yn y brifysgol, ac anogir staff i wahodd myfyrwyr i helpu cefnogi'r cynllun lle bo modd.

Green Impact Gold winners

Eleni, enillodd tîm adran SEACAMS (Ehangu Sectorau Arfordirol a Morol Cymwysedig mewn Dull Cynaliadwy) y Wobr Aur chwenychedig, sef tlws llechfaen.

Enillodd 'Gang Green' o'r Adran Biowyddorau'r wobr am yr enw gorau ar dîm, a rhoddwyd gwobr elusennol iddynt - rhodd i helpu menywod Uganda i gael yr hyfforddiant a'r defnyddiau sydd eu hangen i allu defnyddio ffyrnau arbed ynni, gan wella eu bywydau a'r amgylchedd.

Roedd y 18 myfyriwr oedd wedi derbyn cyfrifoldeb llawn am archwilio timoedd staff y Brifysgol yn derbyn geirda yn ogystal â'u tystysgrifau, i gydnabod yr hyfforddiant a gawsant er mwyn paratoi ar gyfer yr archwilio. 

Hefyd, llongyfarchwyd Undeb y Myfyrwyr Prifysgol Abertawe gan Bethan Harper, cyn-fyfyriwr Abertawe, sydd yn Swyddog Prosiect Effaith Werdd Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr yn y DU, am ennill gwobr Aur mewn cynllun cyfochrog penodol ar gyfer Undebau Myfyrwyr. Yn 2012, llwyddodd Undeb Abertawe i wella ar ei statws Arian blaenorol, ac mae bellach wedi ymuno â'r Undebau gwyrddaf ar draws y DU. Siaradodd Bethan am lwyddiant y prosiect ar draws y wlad, ac am sut oedd Prifysgol Abertawe ar flaen y gad yng Nghymru.

Llywydd y digwyddiad oedd Dr Heidi Smith, Rheolwr Cynaladwyedd y Brifysgol. Wrth agor y digwyddiad, amlygodd sut mae'r Tîm Cynaladwyedd newydd yn cydlynu gwaith amgylcheddol ar draws y sefydliad, a sut y bydd mentrau newydd, gan gynnwys y polisi Cynaladwyedd diweddar, achredu i Safon Arian Ecocampus, cynllun gweithredu bioamrywiaeth newydd, a chynllun rheoli carbon newydd yn gwella perfformiad Abertawe yn sylweddol o ran cynaladwyedd.

Cyflwynwyd y gwobrau gan Ddirprwy Is-ganghellor Yr Athro Iwan Davies, a soniodd am yr heriau a'r cyfleoedd sy'n wynebu Prifysgol Abertawe o'r agenda cynaladwyedd, a sut mae ymrwymiad a chefnogaeth barhaus staff a myfyrwyr yn hanfodol.  Siaradodd am dwf cyflym y sector swyddi gwyrdd, ac am broffil uchel ymchwil y Brifysgol ym meysydd carbon isel ac arloesi amgylcheddol.  Dymunodd Yr Athro Davies bob llwyddiant i Effaith Werdd at y dyfodol.

Roedd y seremoni gwobrwyo’n nodi diwedd Effaith Werdd eleni.  Bydd y timoedd presennol yn ceisio gwella eu perfformiad y flwyddyn nesaf, a bydd y Tîm Cynaladwyedd yn treulio'r ychydig fisoedd nesaf yn recriwtio timoedd newydd ar draws y Brifysgol i gymryd rhan o fis Medi 2012.