Prifysgol Abertawe yn Dathlu yn y Brifwyl

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Dewch i ymuno â'r gwahanol ddathliadau ar stondin Prifysgol Abertawe ar faes Eisteddfod Genedlaethol Cymru ym Mro Morgannwg eleni, a hynny rhwng 4-11 Awst.

Bydd y stondin a'i gweithgareddau'n amlycach nag erioed ar faes y brifwyl a'r atyniadau niferus wedi eu seilio ar agweddau cynhyrfus o fywyd dinas a Phrifysgol Abertawe.

Un o uchafbwyntiau’r wythnos fydd lansio Cronfa Goffa Hywel Teifi er mwyn dathlu cyfraniad unigryw cyn-Athro Cymraeg y Brifysgol i ddiwylliant Cymru. Bydd derbyniad arbennig yn cael ei gynnal i ddathlu’r achlysur yng nghwmni’r darlledwr Huw Edwards, mab Hywel Teifi Edwards a chymrawd er anrhydedd o Brifysgol Abertawe, ac Archdderwydd newydd Cymru, Dr Christine James.

Bydd Dr Christine James, Uwch Ddarlithydd yn Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe hefyd yn cymryd rhan mewn derbyniad Cymraeg i Oedolion. Bydd hi’n cyflwyno llysgennad dros ddysgu Cymraeg yn y De-orllewin ac enillydd gwobr Dysgwr Cymraeg y Flwyddyn Sir Benfro 2012, Sue Carey.

Bydd darpariaeth chwaraeon Abertawe yn cael sylw ddiwedd yr wythnos, pan fydd Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Abertawe, Iwan Davies yn datgelu mwy am Ganolfan Dŵr a Thraeth newydd sbon Abertawe, 360 a fydd yn cynnig amrywiaeth o chwaraeon, gweithgareddau a hyfforddiant pan fydd yn agor ei drysau i’r cyhoedd fis Medi.

Bydd sawl aelod o staff academaidd Prifysgol Abertawe yn cynnal sesiynau difyr am eu meysydd arbenigol. Bydd yr Athro Ken Morgan o’r Coleg Peirianneg yn sôn am y cerbyd enwog Bloodhound, Dr Kate Evans o’r Coleg Gwyddoniaeth yn canolbwyntio ar ei hymchwil ym maes parkour a Dr Siwan Davies o’r Coleg Gwyddoniaeth yn cynnal sesiwn cwestiwn ag ateb gyda’r anturiaethwraig a dderbyniodd radd anrhydeddus gan y Brifysgol yn ddiweddar, Lowri Morgan. 

Bydd Dr Siwan Davies yn achub ar y cyfle i holi Lowri ynglŷn â’i phrofiadau di-ri yn cwblhau amryfal gampau yn yr Arctig. I ddilyn bydd ffilm unigryw ‘GLIMPSE: Yr iâ sy’n diflannu o’r Ynys Las’ yn cael dangosiad cyhoeddus ar y stondin. Mae’r ffilm ddogfen unigryw yn dilyn tîm o rewlifwyr o Brifysgol Abertawe ar daith maes ymchwil i archwilio sut a pham y mae iâ'r Ynys Las yn newid.

Bydd llu o weithgareddau ac adloniant i blant a phobl ifanc bob dydd gan gynnwys sesiynau animeiddio, peintio wynebau a pherfformiadau bywiog gan Trwbador, Arwel Lloyd, Grŵp Fluidity yn ogystal â lansiad CD newydd y band jazz gwerin poblogaidd, Burum.

Meddai Dr Gwenno Ffrancon, Cyfarwyddwr Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe: ‘'Eleni mae gan Brifysgol Abertawe raglen lawn o weithgaredd fydd yn siŵr o ddenu sylw a chynulleidfa. Bydd tair prif thema i'r hyn rydym yn ei gyflwyno, sef dathlu gwaith a chyfraniad Hywel Teifi Edwards, dathlu'r datblygiadau newydd sydd yn digwydd yn Abertawe o ran chwaraeon a champau amrywiol a dathlu campau a gorchestion amrywiol ein staff a'n cyfeillion fel sefydliad. Mae'r arlwy'n gyfuniad o gyflwyniadau difyr, dangosiadau ffilm a gweithgareddau hwyliog fel y gystadleuaeth syrffio a'r gweithdy animeiddio - bydd croeso mawr i'w gael ar y stondin!'’

Ychwanegodd Is Ganghellor Prifysgol Abertawe, yr Athro Richard B Davies: ‘‘Bydd ein presenoldeb ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn fwy nag erioed eleni wnaiff roi cyfle i ni hyrwyddo gweithgareddau amrywiol y Brifysgol. Bydd yr Eisteddfod yn gyfle gwych i ni fedru arddangos y gwahanol gyfleoedd sydd i astudio pynciau trwy gyfrwng y Gymraeg yn y Brifysgol. Dymunwn y gorau i’r Eisteddfod Genedlaethol eleni a gobeithio y bydd pawb yn mentro draw i stondin Prifysgol Abertawe i gael blas o’r arlwy fydd ar gael.’’

Dilynwch ni ar Twitter: http://twitter.com/#!/Prif_Abertawe  

Dewch o hyd i ni ar Facebook: http://www.facebook.com/#!/prifysgol.abertawe