Prifysgol Abertawe yn ehangu ei darpariaeth cyfrwng Cymraeg

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Mae Prifysgol Abertawe yn falch o gyhoeddi ei bod yn dymuno penodi pum aelod newydd o staff academaidd cyfrwng Cymraeg.

Mae’r swyddi, sydd wedi’u hariannu gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, yn rhan o gynllun datblygu cenedlaethol y Coleg i gynyddu nifer y staff academaidd sy’n dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae Prifysgol Abertawe yn dymuno penodi ymgeiswyr i swyddi yn y meysydd canlynol; y gyfraith, cyfryngau digidol, swoleg, gwaith cymdeithasol yn ogystal ag astudiaethau iechyd.

Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn gyfrifol am addysgu a datblygu darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn eu priod feysydd pwnc. Bydd disgwyl iddynt hefyd gyfrannu at fywyd deallusol prifysgolion Cymru drwy waith ymchwil, hwyluso cydweithio gydag adrannau a sefydliadau eraill, a hyrwyddo'r Gymraeg oddi fewn i'w pwnc a'u sefydliadau.

Ynghyd â’r swyddi, mae Prifysgol Abertawe wedi llwyddo i sicrhau dwy Ysgoloriaeth Ymchwil gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ym meysydd Moeseg Iechyd a Pheirianneg. Bydd deiliaid yr Ysgoloriaethau Ymchwil yn derbyn nawdd am hyd at bum mlynedd.

Eisoes yn ystod y flwyddyn academaidd bresennol mae pedwar darlithydd wedi cael eu penodi gan Brifysgol Abertawe fel rhan o Gynllun Staffio Academaidd y Coleg, a hynny ym meysydd Ieithoedd Modern, Daearyddiaeth a Hanes.

Meddai Richard B Davies, Is-Ganghellor Prifysgol Abertawe: ‘‘Mae hyn yn newyddion gwych i Brifysgol Abertawe ac rwy’n edrych ymlaen at groesawu’r ymgeiswyr llwyddiannus i’w swyddi newydd maes o law. Mae darpariaeth cyfrwng Cymraeg Prifysgol Abertawe wedi cynyddu gryn dipyn yn ddiweddar a bydd y penodiadau yma yn sicrhau bod y ddarpariaeth yn parhau i fynd o nerth i nerth, a hynny ar draws ystod eang o ddisgyblaethau academaidd.’’

Meddai Dr Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol: “Bydd y Coleg yn cyllido 100 o swyddi academaidd newydd drwy’r Cynllun Staffio Academaidd rhwng 2011/12 a 2015/16. Mae penodi pum ddarlithyddiaeth ym Mhrifysgol Abertawe yn rhan o strategaeth academaidd y Coleg i gynllunio darpariaeth cyfrwng Cymraeg pwrpasol ar gyfer y dyfodol. Bydd penodiadau yn y meysydd yma, ynghyd ag ysgoloriaethau PhD mewn meysydd yn cynnwys Peirianneg, yn hwb sylweddol i’r ddarpariaeth Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe, ac rwyf yn edrych ymlaen yn fawr at weld cynnydd pellach yn y ddarpariaeth a chyfleoedd newydd ac ychwanegol i fyfyrwyr astudio drwy gyfrwng y Gymraeg”.