Prosiect Myfyrwyr sy’n Weithwyr Rhyw yn lansio gwefan

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd prosiect ymchwil gan Brifysgol Abertawe sy’n ceisio datblygu polisi i Gymry ar gyfer myfyrwyr sy’n weithwyr rhyw yn cymryd cam ymlaen drwy lansio gwefan newydd.

Student Sex Work project Bydd y wefan yn mynd yn fyw yn dilyn cynhadledd Prosiect Myfyrwyr sy’n Weithwyr Rhyw yn y Brifysgol yfory (dydd Gwener 21 Medi) a fydd yn dod â’r rhai hynny sy’n gweithio â gweithwyr rhyw, gwneuthurwyr polisïau, gwasanaethau cymorth i fyfyrwyr, cynrychiolwyr undebau myfyrwyr ac ymarferwyr iechyd rhywiol at ei gilydd i drafod materion allweddol sy’n effeithio ar fyfyrwyr sy’n weithwyr rhyw ac i ddysgu mwy am y prosiect a’r wefan.

Mae’r prosiect tair blynedd o hyd a ddechreuodd ym mis Mehefin, wedi’i ariannu gan grant o £489,143 gan Raglen Arloesi’r Gronfa Loteri Fawr ac mae wedi’i arwain gan Dr Tracey Sagar gyda’i chydweithiwr Debbie Jones o Ganolfan Cyfiawnder Troseddol a Throseddeg Prifysgol Abertawe mewn cydweithrediad ag Ymddiriedolaeth Terrence Higgins, y Clinig Iechyd Rhywiol Integredig, GIG Caerdydd a’r Fro, Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru ac Ysgol Ffilm Casnewydd.

Mae’r tîm yn gobeithio y bydd myfyrwyr sy’n weithwyr rhyw yn cysylltu drwy’r wefan i rannu eu sylwadau mewn cyfrinachedd llwyr, fel bod modd iddynt ddysgu rhagor am eu hanghenion a’r ffordd orau o fynd i’r afael â’r anghenion hynny gyda’r nod o ddatblygu polisi myfyrwyr sy’n weithwyr rhyw yng Nghymru. Gall y sawl sy’n ymweld â’r wefan hefyd gael mynediad at gyngor cynhwysfawr ar iechyd rhywiol a diogelwch personol.

Mae gan y tîm gyfrifau Twitter a Facebook hefyd os yw pobl am gael hyd i ragor o wybodaeth drwy’r cyfryngau cymdeithasol, ond hoffai’r tîm bwysleisio na ddylid postio  gwybodaeth gyfrinachol ar y fforymau hyn.

Drwy gydol y prosiect, bydd ymchwilwyr yn mynychu digwyddiadau myfyrwyr, megis ffeiriau glas a nosweithiau myfyrwyr, ac yn cysylltu â swyddogion lles a menywod o Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru i geisio cael gwybod ragor am fyfyrwyr sy’n weithwyr rhyw.

Drwy gydol y prosiect bydd y tîm yn gweithio ag Ysgol Ffilm Casnewydd sy’n cynhyrchu ffilm i hyrwyddo dadleuon a thrafodaethau ar y mater.

Meddai Dr Sagar: "Ers dyfarnu’r grant gan Gronfa’r Loteri Fawr, rydym wedi bod wrth ein boddau â’r cymorth a’r diddordeb y mae pobl wedi dangos yn y Prosiect Myfyrwyr sy’n Weithwyr Rhyw.

“Un cwestiwn y mae pobl yn gofyn yn gyson yw ‘beth ydych chi’n ei olygu drwy waith rhyw? I ni, mae gan waith rhyw ystyr eang ond rydym yn ymwybodol bod y rhan fwyaf o bobl yn cysylltu’r term â menywod sy’n gwerthu gweithredoedd rhywiol am arian, y ddealltwriaeth gyffredin o buteindra mewn geiriau eraill. Mae ein prosiect ni’n adnabod ‘gwaith rhyw’ fel rhywbeth sy’n cynnwys dawnsio erotig, rhyw gwe-gamera, rhyw ffôn, gwaith gwasanaeth escort, gwaith parlwr tylino yn ogystal â gwaith yn y diwydiant pornograffi. Mae ein prosiect hefyd yn pwysleisio nad yw gwaith rhyw yn gysylltiedig â menywod yn unig ond gyda gweithwyr sy’n ddynion ac yn drawsrywiol hefyd.

“Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at lansiad ein prosiect - mae holl bartneriaid y prosiect wedi bod yn gweithio’n galed y tu ôl i’r llenni yn paratoi ar gyfer 21ain Medi 2012. Mae’r digwyddiad lansio’n cynnwys diwrnod gwybodaeth a gweithdai ym Mhrifysgol Abertawe ac mae’n marcio lansiad swyddogol ein gwefan. Byddwn hefyd yn lledaenu gwybodaeth am y gwasanaeth newydd hwn yn Ffeiriau Glas ar draws Cymru dros y pythefnos nesaf.

“Yr hyn sydd angen arnom yn awr yw i fyfyrwyr a myfyrwyr sy’n weithwyr rhyw i gymryd rhan yn y prosiect. Bydd modd iddynt gysylltu â ni drwy’r wefan a dilyn y prosiect ar Facebook a Twitter. Mae tîm prosiect brwdfrydig gennym sy’n awyddus iawn i gysylltu â myfyrwyr/gweithwyr rhyw yng Nghymru ac rydym yn teimlo’n gryf, drwy weithio gyda’n gilydd, y bydd modd i ni ddymchwel rhwystrau gwahaniaethol a niweidiol a gweithio i sicrhau bod y polisïau a’r gwasanaethau cywir yn eu lle i bobl ifanc sy’n ymwneud â’r marchnadoedd rhyw yng Nghymru.

“Rydym yn gobeithio’n fawr y bydd yr holl unigolion, asiantaethau neu sefydliadau sydd â diddordeb yn ein dilyn ar Twitter a Facebook a bod modd iddynt hefyd gymryd rhan yn y prosiect.”

Meddai Barbara Wilding, Aelod Pwyllgor y Gronfa Loteri Fawr a fydd yn siarad yn y lansiad: “Mae’r Gronfa Loteri Fawr yn ymrwymedig i greu gwelliannau gwirioneddol i gymunedau sydd â’r anghenion mwyaf ond mae’n cydnabod nad yw ffyrdd presennol o gwrdd ag anghenion bob amser yn gweithio a bod rhai anghenion yn newydd a does dim dulliau o fynd i’r afael â nhw. Dyma pam yr ydym wedi lansio Menter y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru. Fel y mae’r prosiect yn profi, mae’n gallu helpu troi syniadau newydd mawr sydd gan bobl yn realiti.”

“Mae Prifysgol Abertawe’n Brifysgol o safon fyd-eang a arweinir gan ymchwil a bydd yr ymchwil yn dangos cymhelliannau ac anghenion myfyrwyr sy’n weithwyr rhyw am y tro cyntaf. Bydd hefyd yn darparu’r gwasanaeth iechyd rhywiol e-iechyd traws sector cyntaf yng Nghymru ac yn datblygu canllawiau arfer gorau ar gyfer Prifysgolion a gwasanaethau lleol yng Nghymru. Rydym yn cydnabod ei fod yn anodd datblygu a gweithredu’r math hwn o waith arloesol yn yr hinsawdd economaidd bresennol. Mae hwn yn brosiect cyffrous y mae ei angen yn fawr ac rydym yn cydnabod pwysigrwydd buddsoddi mewn gwaith prosiect sy’n ceisio gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau myfyrwyr sy’n weithwyr rhyw yng Nghymru.”

Meddai Steve Jones, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Ymddiriedolaeth Terrence Higgins Cymru: “Rydym wrth ein bodd ein bod yn rhan o’r prosiect arloesol hwn. Mae angen gwirioneddol i adnabod graddfa gwaith rhyw ymhlith y boblogaeth myfyrwyr yng Nghymru, nid dim ond i helpu datblygu adnoddau i’r myfyrwyr eu hunain ond i roi dealltwriaeth well o’r mater yn ei gyfanrwydd i brifysgolion, a chyrff llywodraethol lleol a chenedlaethol. Mae gan Ymddiriedolaeth Terrence Higgins Cymru hanes o weithio gyda grwpiau sydd wedi’u hymyleiddio mewn cymdeithas, ac ynghyd â’n partneriaid prosiect, rydym yn gobeithio darparu cymorth sydd ei angen yn fawr, yn awr ac at y dyfodol.”

Meddai Lorraine Galatowicz, Cadeirydd Rhwydwaith Prosiectau Gwaith Rhyw y DU (UKNSWP):” Mae’r UKNSWP yn falch iawn o fod yn rhan o’r Prosiect Myfyrwyr sy’n Weithwyr Rhyw a’i bartneriaid yng Nghymru.  Bydd y prosiect cyffrous ac arloesol hwn yn hybu dysgu a dealltwriaeth ynghylch anghenion myfyrwyr sy’n weithwyr rhyw a materion perthynol yng Nghymru a, gobeithio, yn gweithredu fel llwyfan i ymestyn ar y dysgu a’r canfyddiadau i alluogi dealltwriaeth ehangach ar draws gweddill y DU.

Meddai Hannah Pudner, Cyfarwyddwr Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru: “Mae’r ymchwil hon yn bwysicach nawr nag erioed. Rydym yn dod ar draws mwy a mwy o straeon o fenywod sy’n fyfyrwyr yn troi at y diwydiant rhyw i ariannu eu hastudiaethau. Mae’r diwydiant yn aml yn sâl, heb ei reoleiddio ac yn beryglus, felly po fwyaf yr ydym yn gwybod amdano, y mwyaf hefyd y gallwn helpu’r myfyrwyr sy’n gweithio ynddo.”

Meddai Chris Morris o Ysgol Ffilm Casnewydd: "Mae’r prosiect hwn yn amserol, yn berthnasol ac yn bwysig – mae’r myfyrwyr a’r staff yn Ysgol Ffilm Casnewydd yn falch o fod yn rhan o brosiect ymchwil mor bwysig a chreadigol. Bydd Ysgol Ffilm Casnewydd yn cynhyrchu drama 30 munud o hyd ar y pwnc gwaith rhyw yng Nghymru, gan dynnu sylw at y materion a darparu cyswllt rhwng yr ymchwil a’r hyn sy’n realiti”.

I gysylltu yn gwbl gyfrinachol ewch i www.thestudentsexworkproject.co.uk

Am ragor o wybodaeth:

Twitter: @TSSWP neu ymunwch â’n grŵp Facebook yn facebook.com/thestudentsexworkproject