Pwynt Trafod: Trafod Dyddiaduron Richard Burton yng Ngŵyl Lenyddiaeth Cheltenham

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Bydd Chris Williams, athro a golygydd The Richard Burton Diaries, yn trafod â ffrind agos i Richard Burton a’r actor nodedig Robert Hardy a nith Richard Burton Rhiannon James Trowell yng Ngŵyl Lenyddiaeth Cheltenham y Times y penwythnos hwn.

The Richard Burton Diaries cover pic Bydd y digwyddiad, a gynhelir o 12pm tan 1pm ar ddydd Sadwrn, Hydref 13, yn y Fforwm, yn trafod sut y mae dyddiaduron personol Richard Burton yn datgelu dyn tra gwahanol i’r gŵr yr ydym yn ei nabod fel yr actor nodedig, seren y byd ffilm, a’r person enwog rhyngwladol - mor enwog am ei briodasau clodfawr ag Elizabeth Taylor ag yr oedd am ei ymddangosiadau ar y llwyfan a’r sgrin fawr.

Cafodd y dyddiaduron, y dechreuodd Richard Burton (a anwyd Richard Jenkins ym 1925) eu hysgrifennu â llaw ym 1939 ac a orffennodd ychydig cyn ei farwolaeth ym 1934, eu rhoi yn hael i Brifysgol Abertawe gan ei wraig Sally Burton yn 2005.

Mae’r dyddiaduron a phapurau personol eraill, a adnabyddir fel Casgliad Richard Burton, yn rhan ganolog o’r cyfleuster Archif Richard Burton yn Llyfrgell y Brifysgol sy’n werth £1.2 miliwn, a agorwyd yn ffurfiol ym mis Ebrill 2010.

Professor Chris Williams Dros y pedair blynedd ddiwethaf mae Chris Williams, Athro mewn Hanes Cymru a Chyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (RIAH), sy’n gartref i Ganolfan Richard Burton ar gyfer Astudio Cymru, wedi golygu dros 450,000 o eiriau a ysgrifennwyd gan Richard Burton yn drwyadl.

Caiff canlyniad y gwaith, cyhoeddiad dyddiaduron 704 o dudalennau,  y mae cofnodion yn ymddangos ynddynt yn eu trefn wreiddiol, gydag anodiadau i egluro’r bobl, y llefydd, y llyfrau a’r digwyddiadau y cyfeirir atynt, eu cyhoeddi’r mis hwn gan Wasg Prifysgol Yale.

Wrth siarad cyn y digwyddiad, meddai’r Athro Chris Williams: “Rydw i wir yn edrych ymlaen at siarad am fywyd ac ysgrifennu Richard gyda dau berson sy’n ymddangos yn ei ddyddiaduron.  Bu’n tyfu i fyny gyda Rhiannon ac aeth i Rydychen gyda Robert Hardy, felly roedd y ddau ohonynt yn ei nabod cyn iddo fynd yn enwog ac roeddent yn ffrindiau am weddill ei oes.

Richard Burton's diaries - different formats “Mae’r digwyddiad yng Ngŵyl Lenyddiaeth Cheltenham yn nodi lansiad The Richard Burton Diariesyn y DU, a ddilynir gan ddigwyddiadau a thrafodaethau yn yr Unol Daleithiau ac yn Asia. 

“Roedd enw Richard Burton, ac mae’n dal i fod, yn adnabyddus yn fyd eang ac rydw i wrth fy modd o gael cyfle i siarad ar lwyfan rhyngwladol am ei ddyddiaduron personol, sy’n dangos y dyn diwylliedig, yr ysgolhaig a’r dyn deallus yr oedd e.

“Ac rydw i’n credu y byddai yntau wedi bod wrth ei fodd hefyd.”


Nodiadau:

Mae Canolfan Richard Burton ar gyfer Astudio Cymru yn ffurfio rhan ganolog o Sefydliad Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (RIAH) yn y Brifysgol. Mae’r sefydliad ymchwil yn dod ag ymchwilwyr a myfyrwyr ôl-raddedig at ei gilydd o ar draws Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau i greu amgylchedd ymchwil cyfoethog wedi’i deilwra ar gyfer rhagoriaeth ac effaith. Drwy gefnogi meysydd ymchwil ar draws y Coleg, mae’r Sefydliad yn darparu rhyngwyneb i ymchwilwyr o ansawdd uchel, partneriaid allanol a grwpiau defnyddwyr.

The Richard Burton Archives Mae Archifau Richard Burton, sydd wedi’u lleoli yn Llyfrgell Prifysgol Abertawe, yn gartref i gasgliadau archif y Brifysgol gan gynnwys Casgliad Richard Burton; Casgliad Maes Glo De Cymru; Papurau Raymond Williams; a chasgliadau eraill o bwys ar yr ardal leol a’r Brifysgol. Mae’r casgliadau hyn yn darparu golwg anhygoel ar hanes diwydiannol, diwylliannol, cymdeithasol, gwleidyddol ac addysgiadol De Cymru. Mae gan yr Archifau dros ddau gilometr o silffoedd i storio casgliadau archif y Brifysgol dan amgylchiadau amgylcheddol llym, sy’n sicrhau eu cadwraeth tymor hir. Mae ystafell ddarllen ddynodedig hefyd ar gael i ymchwilwyr astudio’r casgliadau.

Amcan Archifau Richard Burton yw cadw casgliadau archif Prifysgol Abertawe a’u gwneud yn gyraeddadwy ar gyfer cenedlaethau presennol a chenedlaethau’r dyfodol. Mae hefyd yn darparu cymorth ar gyfer yr ymchwil sy’n arwain y ffordd yn fyd-eang a gynhelir gan y Brifysgol; gan wella cysylltiadau rhwng y Brifysgol a’r gymuned leol.  


Penawdau’r lluniau:
1) Clawr blaen ‘The Richard Burton Diaries'. Llun trwy garedigrwydd Gwasg Prifysgol Yale.
2) Yr Athro Chris Williams yn gweithio ar Ddyddiaduron Richard Burton ym Mhrifysgol Abertawe. Llun drwy garedigrwydd James Davies.
3) Dyddiaduron gwreiddiol Richard Burton yn eu gwahanol fformatau.
4) Llun o Archifau Richard Burton ym Mhrifysgol Abertawe. Llun drwy garedigrwydd Ian Vine.