Sesiwn Friffio Cynulliad Cenedlaethol Prifysgol Abertawe

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

‘From Fitness to Fatness and Back Again:The Road Map to a Healthy Childhood’

Yr Athro Gareth Stratton

Canolfan Ymchwil Ymarfer a Meddygaeth Technoleg Chwaraeon Cymhwysol, Y Coleg Peirianneg, Prifysgol Abertawe

 Bydd y sesiwn hwn yn trafod y tueddiadau o ran gweithgarwch corfforol plant, eu hiechyd a ffitrwydd, a gordewdra. Yn 2007, roedd un astudiaeth wedi rhoi ffitrwydd plant Cymru yn y 23ain lle, allan o 23 gwlad Ewropeaidd. Mae data diweddar o arolygon iechyd hefyd yn awgrymu bod lefelau gweithgarwch yn gostwng a bod pwysau plant yn codi yng Nghymru. Bydd Gareth yn amlygu'r dystiolaeth gyfredol ar ffitrwydd plant, eu gweithgarwch corfforol, a'u hiechyd ar sail astudiaethau yng Nghymru a Lloegr, a bydd yn trafod ffyrdd, sydd â gwyddoniaeth gadarn yn sail iddynt, o gynnwys plant mewn rhaglenni gweithgarwch. Bydd hefyd yn cynnig sut y gellid defnyddio cydweithrediad rhwng sefydliadau er mwyn cael effaith gadarnhaol ar iechyd cyhoeddus yn y 21ain ganrif, ac felly ar bolisi a strategaeth.

Dydd Mawrth 29 Ionawr 2013

12.30 pm-1.30 pm

Ystafell Friffio’r Cyfryngau, y Senedd, Bae Caerdydd 

Mae'r Athro Gareth Stratton yn Gyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil Ymarfer a Meddygaeth Technoleg Chwaraeon Cymhwysol, ac yn un o sylfaenwyr y grŵp Dadansoddi Ymddygiad Chwaraeon ac Ymarfer o safbwynt Peirianneg yn y Coleg Peirianneg ym Mhrifysgol Abertawe. Roedd Gareth yn gadeirydd y grŵp NICE a luniodd y canllawiau ymarfer corff ar gyfer plant a phobl ifanc yn 2009, ac ef arweiniodd yr is-grŵp a ysgrifennodd y canllawiau ar weithgarwch corfforol ar gyfer y Prif Swyddog Meddygol. Mae Gareth hefyd yn arweinydd y rhaglen Sportslinx, a enillodd Wobr y Grŵp Ewropeaidd ar Ordewdra Plant yn 2011. Mae ymchwil Gareth yn rhyngddisgyblaethol, gan ffocysu'n bennaf ar bediatreg, ac yn pontio rhwng y labordy a'r gymuned.

Caiff y sesiwn friffio hon ei chadeirio gan yr Athro Jonathan Bradbury, sy’n trefnu sesiynau briffio ar ran Sefydliad Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (RIAH) a Phrifysgol Abertawe. 

I archebu lle cysylltwch â Helen Baldwin yn RIAH, Prifysgol Abertawe ar h.baldwin@abertawe.ac.uk

Noder y bydd y sesiwn friffio yn cael ei chynnal trwy gyfrwng y Saesneg.