Technocamps yn cynnal y gweithdy cyntaf yn Sir Benfro i dechnolegwyr ifanc uchelgeisiol

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Disgyblion Blwyddyn 8 o Ysgol Penfro yn Bush, Sir Benfro oedd y cyntaf ymhlith 200 o bobl ifanc i gael y cyfle i gymryd rhan mewn gweithdy Technocamps a gynhaliwyd yn gynharach y mis hwn yng Nghanolfan Arloesedd y Bont yn Noc Penfro.

Mae’r gweithdai Scratch a GamesSalad sy’n cael eu cynnal gan dîm Technocamps, Prifysgol Abertawe yn rhoi cyfle i bobl ifanc ddysgu sgiliau cyfrifiadura hanfodol sy’n eu galluogi i ddatblygu prosiectau syml, gan ddefnyddio dull rhaglennu llusgo a gosod.

Ymhlith yr ysgolion eraill yn Sir Benfro a fydd hefyd yn elwa o’r cynllun mae Ysgol Syr Thomas Picton yn Hwlffordd sy'n cymryd rhan yr wythnos hon a Chlwb ar ôl Ysgol, Ysgol Dewi Sant, Tyddewi sy’n dod y mis nesaf.

Dywedodd Matt Williams, Athro TGCh Ysgol Penfro, “Mae Technocamps yn rhoi cyfle ardderchog i ddisgyblion gael profiad ymarferol o raglennu cyfrifiadurol, mae fy nisgyblion ym Mlwyddyn 8 wedi mwynhau defnyddio Scratch a GameSalad i greu amrywiaeth o gemau ac maen nhw bellach yn awyddus i ddechrau Clwb Technocamps yn yr ysgol.”

Dywedodd Joe, disgybl ym Mlwyddyn 8 “Roedd Technocamps yn ffordd dda iawn i bobl ifanc gael hwyl wrth greu gemau, roedd y diwrnod yn llawn hwyl”.

Hyd yn hyn mae prosiect Technocamps eisoes wedi croesawu dros 2500 o bobl ifanc (11-19 oed) trwy’i ddrysau ledled ardal gydgyfeirio Cymru ac mae’n bwriadu rhoi cyfle i 1500 yn rhagor o bobl ifanc ddatblygu’u sgiliau mewn meysydd megis rhaglennu, datblygu apps a dylunio gemau.

Dywedodd Cyfarwyddwr Technocamps, yr Athro Faron Moller, “Mae’n bwysig bod cynifer â phosibl o bobl ifanc yn cael y cyfle i fod yn rhan o brosiect Technocamps, felly mae’n wych bod ysgolion, colegau a sefydliadau addysgol eraill yn ardal Sir Benfro yn gallu elwa. Mae’r sgiliau y maen nhw’n eu dysgu yn y gweithdai yn sgiliau cyfrifiadura sylfaenol y mae galw cynyddol amdanyn nhw gan nifer fawr o fusnesau yn y sector digidol.”  

Yn ystod y tri mis nesaf bydd pobl ifanc o ystod o gefndiroedd gwahanol yn dod i weithdai a sesiynau hyfforddi ledled yr holl brifysgolion partner i fynd i’r afael â GameSalad, Alice, Scratch,  App Inventor, Roboteg, datblygu Apps iOS, Moeseg Gemau Cyfrifiadurol, Sketch Patch a thechnoleg wisgadwy.

Nod prosiect ITWales sy’n cael ei arwain gan Brifysgol Abertawe mewn partneriaeth â phrifysgolion Aberystwyth, Bangor a Morgannwg yw ysbrydoli pobl ifanc yng Nghymru am gyfrifiadura a’u herio i feddwl am y byd o’u cwmpas mewn ffordd wahanol.

Ceisia Technocamps ysbrydoli pobl ifanc yng Nghymru am gyfrifiadura a’u herio i feddwl am y byd o’u cwmpas mewn ffordd wahanol. Rydym yn gwybod bod pobl ifanc yn dysgu sut i ddefnyddio offer TGCh, ond a ydynt yn dysgu am yr elfennau sylfaenol sy’n sail i’r TGCh y maent yn ei defnyddio? Yr hyn y mae arnom ei eisiau yw iddynt ddod yn grewyr nid defnyddwyr yn unig.

Yn ddiweddar lansiwyd gwefan newydd ryngweithiol y prosiect, www.technocamps.com, ac mae’n cynnwys ardal benodol ar gyfer disgyblion 11-15 oed, 16-19 oed, Athrawon ac Addysgwyr, Busnesau a Technozone rhyngweithiol.

Mae’r wefan ar hyn o bryd yn darparu adnoddau ar-lein rhad ac am ddim ar gyfer Scratch, GameSalad ac Alice ac mae rhagor ar y gweill. Bydd hyn yn rhoi’r deunydd a’r arweiniad y mae eu hangen ar athrawon ac addysgwyr i deimlo’n hyderus wrth ddychwelyd i’r dosbarth er mwyn i’r bobl ifanc barhau i elwa o’r sgiliau newydd hyn.

Bydd gwybodaeth ar gael cyn hir sy’n rhoi arweiniad ar sut i sefydlu Technoclub, sef gweithgaredd allgyrsiol y gellir ei gynnal amser cinio neu ar ôl ysgol. Bydd pobl ifanc yn cael nifer o heriau i’w cyflawni yn ystod y clwb er mwyn eu hysbrydoli i barhau i ddysgu mewn ffordd hwyliog a chreadigol.

Mae'r wefan hefyd yn hyrwyddo digwyddiadau, gweithgarwch Facebook a Twitter yn ogystal â Technozone sy’n darparu dolenni i gemau a lawrlwythiadau rhad ac am ddim, a’r bwriad yw datblygu’r ardal hon i arddangos y gwaith mae’r bobl ifanc yn ei gynhyrchu yn y gweithdai.

Cefnogir y prosiect gan £3.9 miliwn oddi wrth Gronfa Gymdeithasol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru; mae’r prosiect yn cyflwyno cyfres o raglenni allgymorth i ysgolion, colegau a darparwyr addysgol eraill yn ardal gydgyfeirio Cymru, gan ysbrydoli pobl ifanc i ystyried pynciau cyfrifiadureg sy’n sail i bynciau STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg). Nod hirdymor Technocamps yw eu hannog i ddilyn gyrfaoedd mewn maes a fydd yn gyrru twf economaidd Cymru.

Mae Technocamps yn cael ei arwain gan Brifysgol Abertawe mewn partneriaeth â phrifysgolion Aberystwyth, Bangor a Morgannwg.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Siân Jones, Rheolwr Cyfathrebu ar 01792 606652 neu anfonwch e-bost at communications@technocamps.com