‘Twf Gwyrdd i Fusnesau’ Prifysgol Abertawe a busnesau lleol yn arwain y ffordd

Sylwer bod y dudalen hon wedi cael ei harchifo ac nid yw'n cael ei diweddaru mwyach.

Cynhaliwyd achlysur i arddangos cyflawniadau’r cwmnïau sy’n cymryd rhan yng Nghanolfan Biotechnoleg Algae i Gymru'r wythnos hon, fel rhan o raglen o ddigwyddiadau a sefydlwyd trwy rwydwaith busnes Prifysgol Abertawe, Cyfnewid Gwybodaeth Cymru (KEW).

Amlygodd y digwyddiad ‘Twf Gwyrdd i Fusnesau’ yr amrywiaeth o fanteision sydd ar gael i fusnesau trwy gymryd rhan yn y ganolfan a Chyfnewid Gwybodaeth Cymru a chafodd bawb eu tywys hefyd o gwmpas y cyfleusterau yn y Ganolfan Ymchwil Ddyfrol Gynaliadwy ym Mhrifysgol Abertawe.

Dysgodd y sawl a fynychodd fwy am yr ystod eang o gefnogaeth sydd ar gael gan y brifysgol, gan gynnwys mynediad i ymchwil, cyfleusterau hyfforddiant a gwybodaeth ddiweddar am gyllid.

Enalgae

Mae Prifysgol Abertawe’n dangos y ffordd mewn ymchwil academaidd gymhwysol i algae yng Nghymru trwy Fiotechnoleg Algae i Gymru, Canolfan Trosglwyddo Gwybodaeth a ariennir gan Raglen Arbenigedd Academaidd i Fusnesau Llywodraeth Cymru a sefydlwyd i gefnogi cydweithrediad rhwng busnesau a phrifysgolion.

Dywedodd Dr Adam Powell, Swyddog Trosglwyddo Gwybodaeth Biotechnoleg Algae, “Darparodd y seminar hwn astudiaethau achos o gynhyrchion a gwasanaethau a ddatblygwyd gyda chymorth ein cyfleusterau a’n harbenigedd. Mae gan Adran y Biowyddorau ym Mhrifysgol Abertawe un o’r systemau twf algae mwyaf sydd ar gael yn gyhoeddus yn y DU, gan gynnwys prosesu arbenigol a chyfarpar cynaeafu trwy’n cysylltiadau cryf â chydweithwyr Peirianneg. Mae’r wybodaeth hon a’r gallu hwn i gynhyrchu symiau o fio-màs algae y gellir eu profi wedi’n galluogi ni i gynorthwyo sawl menter leol ac rwy’n gobeithio parhau â’r gwasanaeth am flynyddoedd i ddod.